Cofion am drychineb Aberfan i'w gweld ar y we
Mae cyfweliadau sy’n cofnodi atgofion pobl o wylio digwyddiadau mawr Cymru ar y teledu wedi eu rhoi ar y we.

Ar wefan cofcyfryngau.co.uk mae modd gwrando ar gyfweliadau ble mae pobol yn disgrifo’u profiad o wylio teledu a’u hymateb nhw i ddigwyddiadau megis trychineb Aberfan, Arwisgo’r Tywysog Charles, Streic y Glowyr 1984 a refferendwm datganoli 1997.

Prifysgol Aberystwyth a wnaeth yr ymchwil ac ymhlith y cyfranwyr mae cyn-Aelod Seneddol Pontypridd Kim Howells, y gohebydd Tweli Griffiths, a’r tiwtor Cymraeg Cennard Davies.