Mae angen i Lywodraeth Cymru edrych eto ar y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu prynu i mewn. Dyna gasgliad grŵp a gafodd ei sefydlu i edrych ar reolau ‘caffael cyhoeddus’ yng Nghymru.

‘Creadigrwydd’, ‘cymhwysedd’ a ‘capasiti’ yw’r tair ‘c’ allweddol wrth edrych ar sut y gellid gwella’r sefyllfa, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru yn cael cyfle pwysig i ail-edrych ar ei threfn gaffael bresennol, er mwyn gwneud yn siŵr fod unrhyw gwmni neu fusnes yng Nghymru yn cael yr un cyfle teg i dendro am gytundebau ac i gynnig eu gwasanaethau ar y farchnad gaffael gyhoeddus.

Mae’r cyfle’n cyd-fynd â chyhoeddi cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygio a moderneiddio polisi caffael cyhoeddus ar draws y cyfandir.

Caffael – pwysig i’r economi

“Mae caffael cyhoeddus yn sbardun pwysig i dwf economaidd a chyflogaeth,” meddai Julie James, yr Aelod Cynulliad sy’n Gadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar fater Caffael.

“Mae’n rhaid bod yn llawer mwy uchelgeisiol ynghylch y sector caffael cyhoeddus, ac mae arweinyddiaeth strategol yn hanfodol i godi statws caffael, fel proffesiwn ac o ran yr hyn y gall ei gyflawni.

“Rydym yn croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru o bolisi caffael cyhoeddus, o dan arweiniad John McClelland CBE, a gobeithio y caiff ein hargymhellion eu hystyried ochr yn ochr â’r adolygiad hwnnw.”