Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi dweud y bydd hi’n gweld eisiau Peter Hain, unwaith y bydd wedi ymddeol o Gabinet yr Wrthblaid yn San Steffan.
A hithau ar ymweliad pum niwrnod â Gwlad Thai, fe dalodd deyrnged i’r gwleidydd y mae hi wedi gweithio ochr-yn-ochr ag ef ers blynyddoedd.
“Mae Peter Hain wedi cael gyrfa wleidyddol hir a llwyddiannus, mewn sawl adran,” meddai. “Rydan ni wedi bod yn cysgodi’n gilydd dros nifer o flynyddoedd yng Nghymru ac yn y Swyddfa Dramor, ac mi fydda’ i’n gweld ei golli.

“Er gwaethaf ein anghydweld gwleidyddol, rydw i’n gwybod ein bod ni’n dau yn rhannu’r un uchelgais o wneud y gorau tros Gymru.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio yn adeiladol gyda’i olynydd wrth geisio rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf,” meddai wedyn