he
Mae’r heddlu’n apelio am dystion ar ôl i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad ger y Drenewydd ym Mhowys neithiwr.
Cafodd plismyn eu galw i’r B4385 ger Aberriw tua 7.55pm ar ôl derbyn adroddiadau o ddamwain ffordd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu na chredir bod unrhyw gerbyd heblaw’r beic modur Triumph yn y ddamwain.
“O ganlyniad i’r gwrthdrawiad, dioddefodd y beiciwr anafiadau marwol, ac rydym yn apelio am dystion mewn cysylltiad â’r digwyddiad yma,” meddai.
Gofynnir i unrhyw un a all helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau ffonio 01267 222020.