Mae cwmni o Sweden wedi cael caniatâd i adeiladu fferm wynt enfawr ar safle pwll glo rhwng Castell-nedd ac Aberdâr.

Fe fydd datblygiad Pen y Cymoedd yn cynnwys 76 o dyrbinau a fydd yn cynhyrchu 299 megawat o drydan gan gyflenwi  206,000 o gartrefi.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi rhoi sêl bendith i gwmni Vattenfall i godi’r fferm wynt ar yr amod y bydd modd parhau i gloddio am lo ar  y safle yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Ynni Charles Hendry mewn datganiad: “Mae ffermydd gwynt ar y tir yn chwarae rôl bwysig wrth i ni geisio datblygu ynni ein hunain.

“Dyma’r math rhataf o ynni adnewyddol ac mae’n lleihau ein dibyniaeth ar danwydd o dramor.

“Fe fydd y prosiect yn ne Cymru yn cynhyrchu llawer iawn o drydan adnewyddol ac yn darparu pecyn buddiannau sylweddol i’r gymuned leol.”

Dywed  Vattenfall y  gallai’r datblygiad  “fod yn werth mwy na £1bn i Gymru.”