Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Golwg 360 sy’n cymryd golwg ar rai o’r cynghorau lleol sy’n werth eu gwylio ar 3 Mai. Heddiw, mae Catrin Haf Jones yn edrych ar y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin…

Gyda 74 sedd yn y fantol mewn 58 o wardiau, mae digon o frwydr wedi bod o flaen ymgeiswyr Sir Gaerfyrddin yn yr etholiad hwn.

Mae’r Grŵp Annibynnol mewn grym ers 13 mlynedd bellach, gyda chefnogaeth Llafur, a Meryl Gravell wedi bod yn arwain drwy gydol y cyfnod hwnnw.

Hi yw’r arweinydd sydd wedi bod yn arwain am y cyfnod hiraf mewn unrhyw sir yng Nghymru, a does dim syndod, felly, ei bod hi’n gocyn hitio mawr i’r wrthblaid yn yr ymgyrch ddiweddaraf.

‘Pleidleisiwch i’r Annibynwyr neu Lafur ac fe gewch chi Meryl Gravell. Pleidleisiwch i Blaid Cymru, ac fe gewch chi Peter Hughes Griffiths.’ Dyna fantra diweddaraf rhai o bosteri ymgyrch Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, gyda llun o Meryl Gravell ochr yn ochr â Peter Hughes Griffiths, arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor.

Ac mae’n debygol mai brwydr rhwng yr Annibynwyr a Phlaid Cymru fydd hi wrth y blychau pleidleisio eleni, gyda phethau’n poethi ar garreg y drws rhwng y ddwy garfan. Ond fe allai perfformiad y Blaid Lafur yn ardal Llanelli fod yn allweddol hefyd.

Y drefn ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd mae gan Blaid Cymru 30 o seddi – y grŵp mwyaf o un sedd, ond wyth yn brin o fwyafrif.

Yn dynn wrth sodlau Plaid mae’r Grŵp Annibynnol, sy’n cynnwys un Democrat Rhyddfrydol (yr unig un ar y Cyngor), gyda 29 sedd.

Wedyn mae Llafur, gydag 11 sedd – ffigwr sy’n adlewyrchu cwymp enfawr Llafur trwy Gymru yn etholiadau lleol 2008, pan ddisgynnodd nifer eu cynghorwyr yng Nghaerfyrddin o 25.

Yna mae Gwerin Gyntaf/People First, plaid Sian Caiach, y cyn-aelod o Blaid Cymru, sydd â dwy sedd – yr un nifer â’r ddau Annibynnwr sydd hyd yn oed yn annibynnol ar y Grŵp Annibynnol.

Plaid v Annibynwyr

Nid posteri Plaid Cymru yw’r tro cyntaf i Meryl Gravell ddod wyneb yn wyneb â Peter Hughes Griffiths mewn gornest wleidyddol dros y misoedd diwethaf.

Prin dri mis yn ôl roedd Plaid Cymru, dan arweiniad Peter Hughes Griffiths, yn arwain ymgyrch arall i ddiorseddu’r arweinydd, wrth iddyn nhw gynnig pleidlais o ddiffyg hyder ynddi, yn sgil sylwadau dadleuol am weithwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin (mwy am y stori honno yma).

Meryl Gravell oedd yn fuddugol bryd hynny, wrth iddi drechu’r bleidlais diffyg hyder o 36 i 31, er nad yw pawb o fewn ei charfan ei hun yn hapus gyda hi.

Â’r cyfan mor agos at etholiad lleol, does dim syndod fod y cecru wedi parhau. Brwydr hyd y diwedd felly rhwng Peter Hughes Griffiths a Meryl Gravell.

Adfywiad i Lafur?

A beth am yr holl sôn am ‘adfywiad Llafur’ yn sgil colledion trwm 2008?

Mae’r polau piniwn diweddaraf, brin ddeuddydd cyn y pôl pwysicaf un, yn awgrymu bod gobaith gan Lafur i adennill tir sylweddol eleni.

Yn ôl pôl YouGov, mae cefnogaeth Llafur i fyny 21% ar eu canlyniad yn etholiad lleol 2008, gyda chefnogaeth o 48% yn genedlaethol.

Yn 2008 wrth gwrs roedd anniddigrwydd mawr ynglŷn â llywodraeth Lafur Gordon Brown yn San Steffan. Erbyn hyn mae’r esgid ar y droed arall, a llawer, medden nhw, yn troi at Lafur am eu hachubiaeth yng Nghymru.

Dyna neges Llafur yn genedlaethol eleni hefyd, a hynny – a dim ond hynny – oedd cynnwys eu darllediad gwleidyddol: heb sôn o gwbl am bolisïau awdurdodau lleol.

Ond ai felly yn Sir Gaerfyrddin?

Fe ddylai ardal Llanelli ffitio’n berffaith i’r disgrifiad o ardal draddodiadol y gallai Llafur ei hennill yn ôl. Ond fe fydd gan y blaid waith perswadio’r pleidleiswyr yn un o’u cadarnleoedd traddodiadol mai nhw yw’r rhai i’w hachub, pan fod pryderon am israddio Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli, yn dal i gorddi’n lleol, a Llywodraeth Lafur Cymru’n cael y bai.

Gyda 200 yn protestio am hynny ym Mae Caerdydd ddechrau Mawrth, a’r datgeliad ddoe bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ymgyrch PR i werthu eu cynlluniau i’r cyhoedd – mae’r mater mor fyw ag erioed yn Llanelli.

Wedi’r etholiad…

Wyneb un o’r ddau ar boster Plaid Cymru sy’n debyg o arwain Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi etholiad 2012, er y gallai cynghorydd arall herio Meryl Gravell am arweinyddiaeth ei grŵp hi.

Gyda hanes o gydweithio agos, mae’n debyg mai parhau gwnaiff clymblaid y Grŵp Annibynnol/Llafur wedi’r etholiad – cyn belled â bod y seddi’n stacio o’u plaid.

Mae hynny i gyd yn dibynnu ar Blaid Cymru, wrth gwrs, ac ar lwyddiant ymgyrch sydd wedi magu stem dros y misoedd diwethaf, yn enwedig yng ngorllewin y sir. Ond fe fydd chwilio am wyth ychwanegol, yn ogystal â chadw’r 30 presennol, yn dipyn o her.

Am restr llawn o’r holl ymgeiswyr yn Sir Gaerfyrddin, cliciwch yma.