Darren Millar
Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu penderfyniadau anodd wrth i gyllidebau leihau, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.

Roedd y Pwyllgor yn ymateb i adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n rhagweld y bydd gwariant Llywodraeth Cymru yn gostwng o £15.111 biliwn yn 2010-11 i £13.237 biliwn yn 2014-15. Dywed adroddiad yr Archwilydd fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn “wynebu’r setliad ariannu llymaf yn y DU, pwysau costau cynyddol a bwlch ariannu sylweddol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a thu hwnt.”

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar AC, fod y dasg ariannol a osodwyd i’r sector cyhoeddus yn “un enfawr ond nid yn amhosibl.”

“Mae’r hinsawdd economaidd anodd, mewn rhai mannau, wedi annog cydweithio ac arloesedd o ran darparu gwasanaethau i bobl Cymru, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gynorthwyo i rannu’r arfer da hwn.

“Nid oes dwywaith, fodd bynnag, nad yw hynny’n ddigon ar hyn o bryd, a bod rhagor o benderfyniadau anodd i’w gwneud gan bob corff yn y sector cyhoeddus, a bod yn rhaid gwneud y penderfyniadau hynny’n gyflym er mwyn lleihau effaith y toriadau.”

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon yn argymell bod cydweithredu rhwng sefydliadau’r sector cyhoeddus er mwyn ychwanegu at arbedion cost. Mae’n argymell bod sefydliadau’n rhannu adnoddau ac yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn “gwneud defnydd effeithlon o adnoddau.”