Mae penderfyniad cwmni Dairy Crest i ostwng pris llefrith i ffermwyr o 2 geiniog y litr yn warthus ac yn tanlinellu gwendid sylfaenol y cytundebau llefrith yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae’r cyfradd y bydd ffermwyr llaeth yn cael eu talu rwan 3 i 4 ceiniog y litr yn îs na’r gôst o’i gynhyrchu ac mae hyn heb os yn sgandal,” meddai cadeirydd Pwyllgor Llaeth yr Undeb, Dei Davies.

“Mae’r ffermwyr llaeth yn aml yn cael eu heffeithio yn wael gan y cytundebau yma. Gall fod rhaid iddyn nhw roi deuddeg mis neu ragor yn fwy o rybydd eu bod am newid eu prisiau ond gall y cwmniau prosesu ei newid efo dim ond ychydig o ddyddiau o rybydd.”

“Mae hyn yn rhoi’r ffermwyr llaeth mewn sefyllfa amhosib, “meddai a galwodd ar y llywodraeth i ddeddfu fel mater o frys er mwyn diogelu dyfodol y diwydiant llaeth.

Yn ôl Dairy Crest, mae’n rhaid iddyn nhw ostwng y prisiau oherwydd pwysau’r farchnad.

“Yn dilyn blwyddyn mor gryf i brisiau llefrith yn 2011, rydym yn siomedig iawn ein bod wedi gorfod gostwng y pris yr ydym yn ei dalu i ffermwyr ac rydym wedi gohrio gwneud hyn cyhyd ac y gallem,” meddai Mike Sheldon ar ran Dairy Crest.

Mae penderfyniad Dairy Crest yn mynd i effeithio ar 575 o ffermwyr yn y DU gan olygu gostyngiad o £20,000 sef 7% i fferm sy’n cynhyrchu miliwn litr o laeth y flwyddyn.

Mae Steve James yn is-lywydd yr NFU yng Nghymru ac mae o’n credu nad oes angen cymaint o ostyngiad yn y pris. Ychwanegodd ei fod yn poeni y bydd hufenfeydd eraill yn dilyn esiampl Dairy Crest gan ostwng eu prisiau hwythau hefyd cyn bo hir.