Mae gwraig o Lyn Ebwy wedi gwrthod talu dirwy am docyn parcio ar ôl I gwmni o Sheffield wrthod darparu dogfennau Cymraeg.
Mi gafodd Helen Greenwood ddirwy am barcio ym Maes Parcio’r Walk yng Nglyn Ebwy ym mis Rhagfyr.
Roedd ganddi 14 diwrnod i dalu’r £60 i gwmni preifat Excel Parking.
Wrth ymateb i’r llythyr uniaith Saesneg, fe ddywedodd na fyddai’n talu’r ddirwy nag am barcio yn y Walk – nes bod y ddirwy yn cael ei hanfon ati yn Gymraeg a Saesneg.
Cytunodd y cwmni atal y ddirwy dros dro er mwyn ystyried ei chais.
Mae’r AC Llafur lleol Alun Davies wedi sgrifennu at gwmni Excel Parking yn cefnogi’r cais am ddirwy ddwyieithog.
Er bod y cwmni wedi cytuno i anfon y ddirwy yn Gymraeg, doedden nhw ddim am ymrwymo i ddarparu arwyddion dwyieithog ar eu safleoedd yng Nghymru.
‘‘Oherwydd ein bod yn gwmni preifat, nid oes gofyn arnom i ddarparu arwyddion dwyieithog ar ein safleoedd yng Nghymru,’’meddai Rheolwr Swyddfa Daliadau Excel Parking gan ofyn i Helen Greenwood lythyru gyda nhw yn Saesneg yn y dyfodol.
Drallenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 26 Ebrill