Y Frenhines Elizabeth
Mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi gwrthod cyfle i gwrdd â’r Frenhines yn ne Cymru heddiw.
Bydd y Frenhines yn ymweld â Chymru heddiw fel rhan o’i thaith ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn dathli ei Jiwbilî Diemwnt.
Fe fydd hi’n treulio deuddydd yn y wlad, gan ymweld â Chaerdydd ac yna Merthyr Tudful.
Fe fydd y Frenhines a‘i gŵr, Dug Caeredin, yn mynd i wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf heddiw, cyn cwrdd â thîm rygbi Cymru.
Yn ddiweddarach fe fydd hi’n ymweld â disgyblion a mynd i amgueddfa ym Merthyr Tudful.
Gwrthod gwahoddiad
Dywedodd Leanne Wood ei bod hi wedi gwrthod gwahoddiad i gymryd rhan yn y gwasanaeth yn Llandaf.
Mae hi wedi gorfod gadael Siambr y Cynulliad yn y gorffennol am fynnu cyfeirio at y Frenhines fel ‘Mrs. Windsor’.
Yn ystod yr ymgyrch i fod yn arweinydd Plaid Cymru, roedd wedi dweud y byddai’n rhaid iddi gydnabod y Frenhines yn ei gwaith.
Protest
Mae gweriniaethwyr eisoes wedi datgan eu bod nhw’n bwriadu protestio yn erbyn ei hymweliad yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, yn ogystal â Merthyr.
Dywedodd cefnogwyr Gweriniaeth Cymru, a ffurfiodd y llynedd, nad oedden nhw’n bwriadu difetha’r achlysur, ond eu bod nhw eisiau sicrhau bod eu “llais yn cael ei glywed”.
“Dydyn ni ddim yn gobeithio creu ffwdan o gwbl. Mae hwn yn gyfle i ddangos ein barn mewn modd agored a democrataidd,” meddai ysgrifennydd Gweriniaeth Cymru, Wendy Gruffydd.
“Y cyfan yr ydym ni eisiau ei wneud yw argyhoeddi pobol, heb sbwylio pethau.”
‘Dylai pobol ddathlu’
Ond dywedodd Neil Welton, o sefydliad Monarchiaeth Cymry, y dylai pobol ddathlu bod y Frenhines yn ymweld â’r wlad.
“Mae’n syndod bod gweriniaethwyr gwirion a phlentynnaidd eisiau difetha ymweliad y Frenhines i dde Cymru, er gwaethaf ei theyrnasiad 60 mlynedd hynod,” meddai.
Yfory fe fydd y Frenhines yn ymweld ag eglwys yng Nglyn Ebwy ar ei hymweliad cyntaf â’r dref.