Carwyn Jones
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Cynulliad heddiw ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo economi Cymru.
Heddiw fe fydd y sesiwn lawn gyntaf yn cael ei chynnal yn y Senedd ers i’r gwleidyddion fod ar dair wythnos o wyliau dros y Pasg.
Yn ystod y tair wythnos hynny, mae Carwyn Jones wedi bod ar daith swyddogol i India – ei daith fasnach ddiweddaraf dramor, wedi ei ymweliadau â’r UDA a China’r llynedd.
Aeth Carwyn Jones â chynrychiolaeth o fyd busnes ac academaidd Cymru gydag ef, gyda’r bwriad o godi proffil Cymru yn rhyngwladol.
Cynyddu allforion
Yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog y prynhawn yma, mae disgwyl i Carwyn Jones wynebu cwestiynau ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i helpu cwmnïau lleol i gynyddu eu hallforion i India a China.
Fe fydd hefyd disgwyl iddo wneud datganiad ar y rhagolygon ar gyfer economi Cymru dros y 12 mis nesaf, yn ogystal â manylu ar sut y bydd ei weinyddiaeth ef yn rhoi “cefnogaeth benodol” i bobol hŷn, ddi-waith.
Cyn i Lafur ennill yr etholiad fis Mai diwethaf, un o brif addewidion Llafur oedd y bydden nhw’n ‘sefyll cornel Cymru’ yn erbyn y toriadau gan Lyowdraeth Glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.
Mae disgwyl y bydd yr addewid hwnnw yn un y bydd yn rhaid i Brif Weinidog Cymru ei amddiffyn yn wyneb y gwrthbleidiau’r prynhawn yma.