Peter Hain
Mae 123 o Aelodau Seneddol wedi condemnio ymgais i erlyn Peter Hain am sylwadau a wnaeth am farnwr.

Mae Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon wedi dweud y bydd Aelod Seneddol Castell Nedd, a’i gyhoeddwyr, yn wynebu achos dirmyg llys am iddo feirniadu’r Arglwydd Ustus Girvan yn ei hunangofiant.

Mae David Davis, Aelod Seneddol Ceidwadol Haltemprice a Howden, yn bwriadu cyflwyno cynnig boreol yn y Senedd er mwyn rhoi stop ar yr achos cyfreithiol yn erbyn Peter Hain.

Mae 123 o Aelodau Seneddol eisoes wedi torri llofnod wrth y testun, gan gynnwys Charles Kennedy o’r Democratiaid Rhyddfrydol a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, John Redwood.

‘Trosedd hynafol sydd wedi darfod amdani’

Dywedodd David Davis fod y mater yn “hynod o bwysig”: “Os digwydd yr achos cyfreithiol yn erbyn Mr Hain yna bydd Aelodau Seneddol a hyd yn oed Gweinidogion yn teimlo’u bod wedi eu cyfyngu wrth leisio barn ar y drefn gyfreithiol, a’r farnwriaeth, yn y Deyrnas Unedig.”

Mae Prif Weinidog Prydain hefyd wedi awgrymu ei fod yn cefnogi’r cynnig boreol.

“Mae barnwyr yn beirniadu gwleidyddion a gwleidyddion yn beirniadu barnwyr,” meddai David Cameron.

“Mae hynna’n rhan o ddemocratiaeth fodern a chredaf ein bod ni am gadw’r pethau hyn allan o’r llysoedd.”

Dywed y cynnig boreol bod y Tŷ yn “nodi gyda phryder bod y drosedd hynafol o ddirmygu barnwr,  a oedd wedi darfod amdani ar ddiwedd yr 19eg ganrif, wedi ei defnyddio.”