Carwyn Jones
Mae Llafur yng Nghymru’n gobeithio elwa o bleidlais yn erbyn Llywodraeth Prydain yn etholiadau’r cynghorau lleol.

“Anfonwch neges i Cameron” fydd prif neges y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wrth iddo lansio ymgyrch y blaid yng Nghasnewydd heddiw.

Dim ond pleidlais i Lafur fydd yn dangos pa mor anfodlon yw pobol gyda’r Llywodraeth Glymblaid yn Llundain, meddai, gan addo “math newydd” o ymgyrchu.

Fydd Llafur ddim yn cyhoeddi maniffesto cenedlaethol ar gyfer yr etholiadau yng Nghymru, medden nhw – yn lle hynny, fe fydd yr ymgyrch ar lawr gwlad.

Fe fydd Carwyn Jones hefyd yn teithio ar hyd a lled y wlad i alw am gefnogaeth.

‘Neges i Cameron’

“Dim ond pleidlais i Lafur fydd yn anfon neges i David Cameron a Nick Clegg,” meddai Carwyn Jones. “Dim ond pleidlais i Lafur fydd yn anfon neges bod rhaid iddyn nhw weithredu – fel yr ydyn ni yma yng Nghymru – i fynd i’r afael â diweithdra cynyddol ymhlith pobol ifanc.”

Fe fydd Llafur yn disgwyl ennill pleidleisiau a seddi ar ôl canlyniadau gwael yn yr etholiadau diwetha’ bedair blynedd yn ôl. Fe fyddan nhw’n arbennig o awyddus i ennill grym yn ôl yn rhai o’r canolfannau mawr, fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.