Wylfa
Mae CND Cymru wedi rhybuddio yn erbyn caniatau i gwmni sy’n delio mewn arfau niwclear i ddatblygu gorsaf niwclear ar safle Wylfa B ar Ynys Môn.

Mae’r mudiad gwrth-niwclear yn dweud y dylid gwrthwynebu unrhyw ymgais gan gwmni Rosatom, sy’n berchen i wladwriaeth Rwsia, i godi eu gorsaf ynni niwclear ar Ynys Môn.

Yn ôl Ysgrifennydd CND Cymru, Jill Gough, mae’n “eironig” fod Prydain nawr yn ystyried caniatau i gwmni o Rwsia ddatblygu gorsaf niwclear yn Ynys Môn, â nhwythau wedi bod yn cynhyrchu arfau niwclear yn barod i’w defnyddio yn erbyn Prydain yn y gorffennol.

Mae Rosatom wedi cael eu cysylltu â safle Wylfa B ers iddi ddod i’r amlwg fod y cwmni yn gobeithio ymestyn eu marchnad i Brydain yr wythnos diwethaf. Cadarnhaodd llefarydd ar ran y cwmni wrth Golwg 360 eu bod nhw yn “ystyried y farchnad ym Mhrydain yn un deiniadol iawn.”

Arfau niwclear

Ond mae sawl pryder wedi codi ynglŷn â’r cwmni ers hynny, gan gynnwys y ffaith fod Rosatom yn perthyn i’r cwmni â gododd atomfa Chernobyl.

Ond mae’r pryder diweddaraf yn deillio o’r ffaith fod gan Rosatom ran flaenllaw yn niwydiant amddiffyn Rwsia, a bod adain o’r cwmni yn arbenigo mewn creu arfau niwclear.

“Mae ’na rhyw eironi yn y ffaith fod cwmni o Rwsia, oedd yn ymwneud â chreu arfau i dargedu’n gwlad ni, ac a gododd gorsaf niwclear a lygrodd gogledd Cymru, yn cael eu hannog nawr i adeiladu’r adweithyddion newydd yn Wylfa,” meddai Jill Gough.

“Bydd Rosatom yn buddsoddi arian mewn prosiectau niwclear ble bynnag mae’n credu y gall wneud elw parod. Heddiw, Cymru a’r cyffiniau, yfory gallai hynny fod rhywle yn y byd.

“Mae’r cynigion gan y cynhyrchydd arfau niwclear Rosatom yn dangos yn agored ac yn gymharol onest sut mae nhw’n gweld technoleg niwclear,” meddai Jill Gough.

‘Targed i derfysgwyr’

Mae CND Cymru hefyd yn rhybuddio y byddai dyfodiad gorsaf niwclear sydd â chysylltiadau mor amlwg ag arfau niwclear yn gwneud Wylfa yn darged i ymosodiadau.

“Mae bodolaeth atomfa fel hyn yn ein cymuned wastad yn mynd i fod yn fom niwclear posib, boed hynny yn darged confensiynol, neu’n darged i derfysgwyr,” meddai Jill Gough.

“Er gwaetha’r hyn y mae’r diwydiant niwclear yn dweud wrthon ni, byddai adeiladu digon o atomfeydd i wneud gwahaniaeth go iawn mewn allyriadau carbon yn costio trilynau o bunnoedd, creu degau o filoedd o dunelli o wastraff ymbelydrol marwol, yn cyfrannu at greu rhagor o ddeunydd ar gyfer arfau niwclear, ac yn creu damwain maint Chernobyl unwaith bob degawd,” meddai.

“Mae pob technoleg fel hyn yn creu gwastraff ymbelydrol ac yn cael effeithiau nad yw pobol eto’n gwybod sut i ddelio â nhw, ac mae’n fygythiad parhaol i bopeth byw.”