Harold Lowe
Cafodd plac llechen ei ddadorchuddio yn y Bermo heddiw i gofio am fywyd un o arwyr trychineb y Titanic suddodd ganrif union yn ôl.
Fe wnaeth Harold Lowe, oedd yn bumed swyddog ar y llong, ddychwelyd yn ei fâd achub wedi i’r Titanic suddo er mwyn achub rhagor o bobl o’r môr.
Cafodd groeso arwrol pan ddaeth yn ôl adref i’r Bermo wedi’r trychineb.
Roedd wedi cael ei fagu yn y dref ac mae’r plac wedi ei osod ger adeilad yr harbwr feistr.
Ei ŵyr, John Lowe, sy’n gyn gapten llong, gafodd yr anrhydedd o ddadorchuddio’r plac er cof am ei daid. Mae’n dal i fyw yn y tŷ lle bu ei daid fyw am 13 mlynedd ar ôl dod adref i’r Bermo cyn symud i Gonwy ble bu farw yn 1944 yn 61 oed.
Yr actor Ioan Gruffudd oedd yn chwarae rhan Harold Lowe yn y ffilm Titanic yn 1997 ac mae o wedi ysgrifennu llythyr at y cyngor ynglyn â’r dadorchuddio.
Bydd y llythyr yn cael ei fframio a’i gadw yn arddangosfa Titanic y dref.
Y gwasanaeth ar Fôr Iwerydd
Cynhaliwyd gwasanaeth ar fwrdd y llong bleser Balmoral y bore yma yn yr union fan ynghanol môr Iwerydd ble suddodd y Titanic ar y 15 Ebrill 1912.
Lladdwyd 1,512 o bobl yn y trychineb, achosodd newid sywleddol yn y rheolau ynglyn â diogelwch ar longau.
Ar ôl suddo’r Titanic, bu’n rhaid i longau gario nifer o fadau achub oedd yn cyfateb i nifer y teithwyr nid i bwysau’r llong.
Fe wnaeth y teithwyr ar y Balmoral, sy’n cynnwys perthnasau rhai o’r bobl laddwyd, gynnal munud o dawelwch yn oriau man y bore cyn i dorchau gael eu taflu i’r môr.
Cafodd pob un o’r rhai fu farw ei enwi yn ystod y gwasanaeth.
Arddangosfeydd
Mae arddangosfeydd am y Titanic yn cael eu cynnal mewn sawl cwr o’r byd gan gynnwys Las Vegas, San Diego, Houston a Singapore.
Mae’r arddangosfa fwyaf beth bynnag yn Belfast ble gafodd y Titanic ei hadeiladu gan gwmni Harland and Wolff ac mae 45,000 o bobl eisoes wedi bod yno.
Cafodd Gardd Goffa’r Titanic hefyd ei hagor ynghanol y ddinas mewn pryd ar gyfer y coffau’r penwythnos yma.