Neil McEvoy
Mae’r Blaid Lafur wedi penderfynu cael gwared ar 5,000 o gopïau o daflen etholiadol oedd yn beirniadu’r iaith Gymraeg.

Roedd y daflen ar gyfer yr ymgyrch etholiadau lleol yn cynnwys dyfyniad gan un dyn lleol oedd yn dweud nad oedd o’n gallu cael swydd yng Nghymru o ganlyniad i’r iaith Gymraeg.

“Rydw i’n ŵr gradd sy’n chwilio am waith ond diolch i Blaid Cymru dydw i ddim yn gallu gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi yng Nghymru oherwydd bod angen gallu siarad Cymraeg,” meddai ‘David’ ar y daflen.

Y bwriad oedd y byddai’r daflen yn cael ei dosbarthu i dai trigolion Trelái.

Dywedodd dirprwy arweinydd cyngor Caerdydd, Neil McEvoy, y dylai’r Blaid Lafur esbonio sut y cynhyrchwyd y daflen yn y lle cyntaf.

“Mae gan Lafur hanes o geisio gwahanu pobol dros achos yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd,” meddai’r cynghorydd o Blaid Cymru.

“Mae’n warthus bod y daflen yn cynnwys enwau gwleidyddion fel Carwyn Jones ac Eluned Morgan, sy’n siarad Cymraeg, ac yna dyfyniad gwrth-Gymraeg di-sail.

“Mae’n sothach llwyr honni bod angen gallu siarad y Gymraeg i gael y rhan fwyaf o swyddi yng Nghymru.”

Dywedodd wrth bapur newydd y South Wales Echo ei fod yn credu mai “cywilydd” oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i dynnu’r daflen yn ôl.

Ond mynnodd y Blaid Lafur bod y daflen yn mynd yn groes i beth oedd y blaid yn ei gredu ynddo a dyna pam ei fod wedi ei ddinistrio.

“Y penderfyniad amlwg oedd peidio a dosbarthu’r taflenni, a dinistrio 5000 o gopïau,” meddai llefarydd.

“Mae honni y byddai Llafur Cymru yn cydoddef neu’r hyrwyddo dosbarthiad y fath sylwadau yn abswrd.”