Castell Caerffili
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cynnal ymchwiliad yn dilyn adroddiadau fod llygredd yn ffos Castell Caerffili.
Dywedodd yr asiantaeth fod eu swyddogion wedi dod o hyd i sylwedd sy’n debyg i olew neu danwydd arall yn y ffos, a’u bod nhw wedi cymryd sampl.
Maen nhw’n gobeithio dod o hyd i ffynhonnell y llygredd ac yn ymchwilio i fodd o gael gwared ar y llygredd a’i atal rhag lledu ymhellach.
Dywedodd yr asiantaeth nad oedd yna unrhyw effaith amlwg ar fywyd gwyllt yr ardal ond fod y llygredd yn drewi ac yn weladwy yn y ffos.
“Ein blaenoriaeth ni yw lleihau’r niwed i’r ffos a symud y llygredd os yw hynny’n bosib,” meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth.
“Yna rhaid darganfod beth achosodd hyn.
“Mae’n debygol fod y tanwydd wedi cyrraedd y ffos drwy’r system ddraenio.”
Dylai unrhyw un sydd wedi gweld rhywbeth amheus yn yr ardal ffonio’n ddienw ar 0800 80 70 60.