Andrew R T Davies
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn mynd i fod yn lansio’u maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cyngor heddiw, a hynny ar dir sy’n darged i’r Blaid Lafur.

Y Ceidwadwyr sy’n rheoli Cyngor Abertawe ar hyn o bryd, law yn llaw â’r Dems Rhydd, ond mae’r Cyngor yn darged i Lafur yn eu hymgyrch i adennill y tir a gollwyd yn etholiadau 2008.

“Rhoi Grym yn Eich Dwylo” yw prif neges y lansiad, ac mae’r Ceidwadwyr yn mynnu mai nhw yw’r blaid i roi grym yn ôl yn nwylo’r gymuned a’r bobol lleol.

Ymhlith addewidion etholiadol y Blaid eleni, maen nhw’n dweud eu bod nhw “ymrwymiedig” i rewi treth y cyngor, cael gwared a threthi busnes i fusnesau bach, gwneud awdurdodau lleol yn fwy tryloyw ac yn fwy atebol, a gwneud y system gynllunio yn fwy hyblyg.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw’n edrych ar greu system o ariannu ysgolion yn uniongyrchol er mwyn torri biwrocratiaeth a rhoi’r grym yn nwylo’r bobol, atal toriadau Llafur yn y Gwasanaeth Iechyd ac adfer eu cyllid, a blaenoriaethu trwsio ffyrdd, a thorri lawr ar sbwriel a graffiti.

‘Rhoi grym yn ôl i’r cymunedau’

Wrth lansio maniffesto ei blaid heddiw, mynnodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, mai nhw oedd y blaid “ar ochr y cymunedau ar hyd a lled Cymru” a’u bod nhw “eisiau rhoi grym yn ôl yn eu dwylo nhw.”

Byddai pleidleisio dros y Ceidwadwyr ar 3 Mai yn fwy na “rhoi croes ar bapur pleidleisio,” meddai. “Mae’n gyfle i ddewis yr hawl i wneud penderfyniadau am y blynyddoedd i ddod. Mae’n gyfle i flaenoriaethu’r materion go iawn sy’n effeithio ar bobol go iawn.”

Pwysleisio pwysigrwydd yr etholiadau lleol oedd neges Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y bore ’ma.

“Mae’r etholiadau yma’n bwysig gan eu bod nhw’n effeithio bob person, bob stryd, bob tref, bob pentref a bob dinas yn y wlad yma,” meddai.