Wylfa
Mae awgrym fod cwmni o Rwsia yn gobeithio datblygu gorsaf niwclear Wylfa B.

Yn ôl adroddiadau, mae cwmni Rosatom, sy’n berchen i’r Kremlin, wedi troi ei olygon ar safleoedd Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury yn Swydd Gaerloyw.

Tan yn ddiweddar, roedd disgwyl y byddai’r ddau safle yn cael eu hadeilau a’u rhedeg gan E.ON ac RWE Npower.

Roedd disgwyl y byddai’r ddwy orsaf wedi creu digon o bwer ar gyfer 5 miliwn o gartrefi petai’r cynlluniau i’w hagor erbyn 2025 wedi mynd yn eu blaen.

Ond ddiwedd mis Mawrth fe gyhoeddodd y cwmniau Almeinig eu bod yn rhoi’r gorau iddi yn sgil costau cynyddol, ac maen nhw nawr yn gobeithio gwerthu eu prosiect nicwlear Horizon, gwerth £16 biliwn.

Mae opsiynau eraill ar gyfer safle Wylfa B ar Ynys Môn wedi bod yn edrych yn brin yn ddiweddar, wrth i gyfres o gwmniau eraill ddweud nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb.

Ond mae’r cwmni o Rwsia, fu’n gyfrifol am godi atomfa Chernobyl, wedi cadarnhau  eu bod nhw nawr yn edrych i gyfeiriad Prydain.

Mae cwmni Roastom yn gyfrifol am un o bob chwech gorsaf niwclear yn y byd erbyn hyn, gyda’u gorsafoedd diweddaraf yn cael eu hadeiladu yn India ar hyn o bryd.

Cyngor Môn yn croesawu’r newyddion

Wrth ymateb i’r newyddion, cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod nhw ar ddeall bod safle Wylfa dan ysytyriaeth gan gwmni newydd.

“Mae’r Wylfa yn parhau i gynrychioli’r safle gorau ym Mhrydain ar gyfer pwerdy niwclear newydd ac rydym yn deall bod datganiad o ddiddordeb cryf mewn prynu cwmni Horizon Nuclear Power,” meddai’r llefarydd.

“Byddwn fel Cyngor Sir, wrth gwrs, yn dymuno gwerthiant cyflym er mwyn sirchau parhad i’r cynlluniau sydd eisoes wedi eu datblygu ar yr Ynys.

“Ni fyddai’n briodol, fodd bynnag, i ni wneud sylw am gwmniau unigol sydd yn mynegi diddordeb.”