Mae un o’r cwmniau awyrennau blaenllaw sy’n hedfan o faes awyr Caerdydd yn dweud nad yw’r farchnad wedi gwella dim dros y misoed diwethaf.

Mae disgwyl i gwmni Flybe fod wedi gwneud colled yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl adroddiadau heddiw.

Ond mae Flybe, y cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf yn Ewrop, yn dweud bod eu masnach yn ystod chwarter diwethaf y flwyddyn ariannol wedi cyrraedd eu disgwyliadau – er gwaetha’r cwymp yn y galw yn ystod mis Ionawr.

Mae’r cwmni yn hedfan o Gaerdydd, Bryste, Doncaster, Caeredin a Dwyrain Canolbarth Lloegr, ac er bod y farchnad yn parhau’n heriol, mae’r cwmni’n dweud bod eu model busnes “cadarn a hyblyg” wedi bod o fudd mawr iddyn nhw.

Mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw nawr yn bwriadu codi pris bob sedd, torri costau, a sicrhau bod y gwasanaeth yn adlewyrchu’r galw yn well.

Mae digswyl i fanylion pellach gael eu cyhoeddi law yn llaw â chanlyniadau’r flwyddyn llawn ym mis Mehefin.