Mae llechen wedi cael ei dadorchuddio yn Neganwy ger Conwy er cof am un o arwyr y Titanic.

Roedd Comander Harold Lowe yn gweithio ar y llong yn 1912 pan darodd fynydd o ia. Yn ôl cofnodion hwyliodd Harold Lowe yr unig fad achub a aeth i chwilio am oroeswyr yn y dŵr, ac fe gafodd ei bortreadu yn 1997 gan Ioan Gruffudd yn y ffilm enwog Titanic.

Ganed Harold Godfrey Lowe yn Eglwys Rhos ger Deganwy a chafodd ei fagu yn y Bermo. Ymddeolodd i dŷ glan môr yn Neganwy ac yno bu farw yn 1944 yn 61 oed. Mae plac glas wedi cael ei osod ar wal y tŷ i gofio amdano.


Capten John Harold Lowe
Ei ŵyr, y Capten John Harold Lowe, sy’n byw yn y tŷ bellach, a dywedodd ei fod yn falch fod ei daid yn cael ei gydnabod am ei ddewrder.

Yn Southampton heddiw mae disgynyddion y rheiny a fu farw yn nhrychineb y Titanic wedi bod yn taflu blodau ar y doc yno er mwyn nodi can mlynedd ers i’r llong hwylio oddi yno ar ei mordaith i America.

Cafodd munud o dawelwch ei chynnal i gofio’r 1500 o deithwyr a chriw a fu farw yn y drychineb. Roedd 549 o’r rheiny  yn dod o Southampton.