Jeffrey William Gravell (Llun heddlu)
Fe roddodd heddlu’r gorau i gyfri’r holl luniau pornograffig oedd ym meddiant rheolwr cyfrifiduron mewn ysgol yn Llanelli.

Heddiw, fe gafodd Jeffre y Gravell, 54 oed, o Borth Tywyn, ei garcharu am ddwy flynedd am ddwyn offer cyfrifiadurol ac am fod â’r lluniau anweddus yn ei feddiant.

Roedd yr heddlu wedi cyfri mwy na 390,000 o luniau cyn rhoi’r gorau i’r dasg – roedd mwy na 700 ohonyn  nhw yn y categori mwya’ eithafol.

Roedd Jeffrey Gravell yn gweithio yn Ysgol Coedcae Llanelli ac fe gafodd ei ddal wrth i heddlu ymchwilio i ladrad cyfrifiaduron oddi yno.

Y nifer mwya’ erioed

Wrth ei ddedfrydu, fe ddywedodd y barnwr nad oedd awgrym bod yr arbenigwr cyfrifiaduron wedi gwneud niwed i unrhyw blentyn nac wedi ymyrryd yn rhywiol â neb.

Fe ddywedodd mai dyma’r casgliad mwya’ o luniau pornograffig yr oedd Heddlu Dyfed Powys wedi dod ar eu traws erioed.

Fe fydd enw Jeffrey Gravell yn mynd ar y rhestr troseddwyr rhywiol am ddeng mlynedd ac fe fydd yn cael ei wahardd rhag gweithio gyda phlant am gyfnod amhenodol.