Logo Twitter
Mae gwefan Twitter bellach yn cynnig cyfle i gyfieithu’r wefan i ieithoedd eraill.

Does dim dewis i gyfrannu at gyfieithiad Cymraeg eto, ond mae’r wefan wedi galw ar drydarwyr i awgrymu ieithoedd eraill y dylid eu cyfieithu.

Mae modd i ddefnyddwyr lenwi ffurflen ar y wefan yn galw am gynnwys y Gymraeg ymysg yr ieithoedd sydd ar gael i’w cyfieithu.

Daw’r cyfle i gyfieithu Twitter ar ôl i wefan rhwydweithio cymdeithasol arall, Facebook, gynnig cyfle i ddefnyddwyr gyfieithu’r safle.

Mae Facebook bellach ar gael yn Gymraeg, a sawl iaith leiafrifol arall, gan gynnwys Gwyddeleg, Catalan, a Saesneg y Môr Ladron, diolch i ymdrechion  defnyddwyr.

Mae Twitter eisoes yn caniatáu cyfrannu at gyfieithu’r safle i 27 iaith wahanol gan gynnwys Arabeg, Hebraeg, ac Wrdw.