Sian Davies
Mae hogan o Fôn ymysg ugain o ferched sydd wedi  cyrraedd ffeinal cystadleuaeth Miss Tattoo UK 2012.

Mae Sian Davies eisoes wedi dod yn gyntaf mewn pôl piniwn o 70 o ferched gyda thatŵs ar wefan y Liverpool Tatto Convention.

Wrth weithio fel model yn Llundain y cafodd y ferch o Lanfairynghornwy ger Bae Cemaes datŵ siarc ar ei choes a neidr ar ei hysgwydd.

Ddechrau’r flwyddyn fe gafodd llun o’i thatŵ siarc ei gyhoeddi yn Skin Shots, un o gylchgronau mwya’ poblogaidd y diwydiant.

Fe gafodd Sian Davies ei thatŵ cyntaf ddwy flynedd yn ôl yn Amsterdam.

“Rydw i’n licio’r ffordd maen nhw’n gwneud i bobol edrych, mae o fel gwysgo jewellry,” medddai.

“Dw i’n lyfio’r ffordd maen nhw’n gwneud i mi deimlo fel individual.”

Ac er bod crafu inc ar groen yn boenus, mae hi wrth ei bodd gyda’r profiad.

“Dw i’n rili mwynhau cael nhw wedi eu gwneud, dw i’n lyfio’r poen a’r vibe.

“Wrth gael tatŵ dw i’n cael switch-off hefyd, fath mini-holiday.”

Mae Sian Davies yn un o 20 fydd yn cael eu hidlo lawr i ddeg ar gyfer y ffeinal mewn confensiwn tatŵs yn Lerpwl fis Mai.

Bydd y buddugol yn ymddangos ar glawr y cylchgrawn Tattoo Revolution, sesiwn gyda ffotograffydd proffesiynol a thatŵ newydd gan arbenigwr.