Kirsty Williams
Mae’r Dems Rhydd yn galw am gyhoeddi rhestrau lobïo er mwyn sicrhau trylowder o fewn llywodraeth yng Nghymru heddiw.

Yn ôl Kirsty Williams, arweinydd y Dems Rhydd Cymreig, mae’n rhaid i’r gwaith lobïo fod yn agored ac yn dryloyw i bawb.

“R’yn ni’n cydnabod bod lobïo yn weithgaredd dilys i sefydliadau fod yn ei wneud, ac maen nhw’n gallu chwarae rhan bwysig iawn wrth sicrhau bod lleisiau gwahanol yn cael eu clywed yn y llywodraeth ac wrth osod polisi,” meddai.

“Ond r’yn ni yn credu, o ran tegwch a thryloywder, y dylai manylion y cyfarfodydd hynny rhwng Llywodraeth a’r rheiny yn y diwydiant lobïo fod yn agored i bawb, a’i bod hi’n bosib craffu arnyn nhw.”

Er bod arweinydd y Dems Rhydd yn cyfaddef nad yw hi ei hun yn cyhoeddi manylion ei chyfarfodydd â chyrff lobïo ar hyn o bryd, dywedodd na fyddai ganddi broblem gwneud, ond y byddai hynny’n ddiwerth pe na byddai pleidiau eraill yn gwneud hynny hefyd.

‘Sgandal’

Dywedodd hefyd fod cyhoeddi manylion cyfarfodydd yn ran allweddol o ddemocratiaeth, gan fod hawl gan y cyhoedd i wybod pwy oedd yn mynd i gyfrafodydd gyda’u cynrychiolwyr.

Er ei bod hi’n grediniol yn yr egwyddor, cyfaddefodd Kirsty Williams nad oedd hi’n hollol glir ar y manylion wrth roi’r system yn ei le eto.

“Ond yr hyn d’yn ni ddim ei eisiau yw i gyrraedd sefyllfa lle mae ’na sgandal sy’n gorfodi’r Cynulliad i weithredu,” meddai, gan gyfeirio at y sgandal diweddaraf i daro’r Ceidwadwyr dros y penwythnos.

“Mae ganddon ni record dda iawn yng Nghymru, fel sefydliad, o geisio mynd i’r afael â materion cyn iddyn nhw droi’n broblem.

“Dwi’n meddwl bod angen i ni fod yn flaengar fan hyn eto wrth roi trefn ar ein tŷ o ran lobïo, cyn i ni gyrraedd sefyllfa o wrthwynebiad cyhoeddus i’r system – a allai fod yn niweidiol i Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cymru, gwleidyddiaeth Cymru, ac yn niweidiol i ddiwydiant digon dilys,” meddai.