Helen Mary Jones
Fe fydd yr etholiadau lleol ym mis Mai yn ymgyrch anodd yn ôl Cadeirydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.

Wrth annerch cynhadledd wanwyn y blaid yn Ffos Las, ychwanegodd nad refferedwm ar yr arweinydd newydd Leanne Wood fydd y bleidlais chwaith.

Dywedodd Ms Jones y bydd yr etholiadau yn digwydd brin chwech wythnos wedi ethol Ms Wood.

“Beth bynnag fydd y canlyniad, dwi ddim yn credu y gallwn ni gymeryd hynny’n linyn mesur o sut y mae pobl yn ymateb i’r arweinyddiaeth newydd,” meddai.

Ychwnegodd bod y Blaid Lafur eisoes yn ymgyrchu’n galed mewn rhannau o Gymru ond roedd yn ffyddiog y buasai Plaid Cymru yn dal ei gafael ar Wynedd a Chaerffili gan ychwanegu at yr ychydig dros 200 o gynghorwyr sydd ganddi led led Cymru.

Yn gynharach yn ystod y dydd dywedodd Alun Ffred Jones AC, sydd yn gyfrifol am yr ymgyrch etholiadau lleol, bod Plaid Cymru wedi profi eisoes ei bod yn gallu llywodraethau yn effeithiol ar lefel leol ac mai dyma’r amser i ledaenu’r neges bod cynghorwyr Plaid Cymru yn mynd y filltir ychwanegol dros eu hetholwyr.