Alun Ffred Jones AC
Mae cynghorwyr Plaid Cymru eisoes wedi profi eu bod yn fodlon ‘mynd y filltir ychwanegol i’w hetholwyr’.

Dyma fydd neges Alun Ffred Jones AC i’r aelodau yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn Ffos Las, Sir Gaerfyrddin dros y Sul.

Mae Mr Jones yn gyn gadeirydd Cyngor Gwynedd ac ef sy’n gyfrifol am yr ymgyrch etholiadau lleol Plaid Cymru eleni.

Plaid Cymru sydd yn arwain cynghorau Gwynedd a Chaerffili ar hyn o bryd a bydd Mr Jones yn dweud wrth yr aelodau eu bod eisoes wedi profi yno eu bod yn gallu llywodraethu’n effeithiol ar lefel leol.

Fe gollodd y blaid seddau yn etholiadau’r Senedd llynedd gan fynd i’r trydydd safle y tu ôl i Lafur a’r Ceidwadwyr.

Bydd yr etholiadau yn digwydd ar 3 Mai sef 6 wythnos wedi ethol Leanne Wood yn arweinydd newydd y blaid.

Yn ei haraith gyntaf fel arweinydd dydd Gwener dywedodd Ms Wood bod gormod o arian yn gadael cymunedau lleol Cymru.

“Mae’n rhaid i ni ddatblygu cynllun i roi stop ar hyn,” meddai. “Mae’n rhaid i ni ddatblygu cynllun i amddiffyn ein cymunedau.”