Daethpwyd o hyd i gorff dyn 52 oed yn Afon Tawe yn Abertawe, cyhoeddodd Heddlu De Cymru heddiw.

Galwyd swyddogion i’r afon ger New Cut Road tua 8am ddydd Iau.

Dywedodd yr heddlu nad oes esboniad eto ynglŷn â beth achosodd y farwolaeth. Maen nhw’n disgwyl am ganlyniad archwiliad post-mortem.

Mae’r crwner a theulu’r dyn wedi cael gwybod.