Mae’r RSPCA yn galw am wybodaeth wedi i Dylluan Frech gael ei saethu mewn gwarchodfa adar yng Nglyn Ebwy.

Daeth perchennog gwrachodfa Festival Park o hyd i’r dylluan tua 9am ddydd Sul ar ôl clywed saethu ar y safle.

Roedd y dylluan wedi ei tharo yn ei benglog gan belen o wn awyr. Mae’r heddlu hefyd yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

“Roedd hwn yn ymosodiad creulon a llwfr yn erbyn aderyn diamddiffyn,” meddai Sophie Daniels o’r RSPCA.

“Mae saethu adar â drylliau awyr yn mynd yn ragor a rhagor o broblem gan achosi llawer o boen i’r anifeiliaid a’u perchnogion.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r RSPCA ar 0300 1234 999.