Ysgol Gynradd Dihewyd
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud na ddylid codi gobeithion teuluoedd ynglŷn â dyfodol  ysgol wledig yn y Sir, wedi i’r Cyngor llawn gefnogi argymhelliad i roi blwyddyn a naw mis o ras i’r ysgol brynhawn ddoe.

Yn ôl Keith Evans, mae argymhelliad y Cyngor, a basiwyd o 13 pleidlais i 12 ddoe, yn “codi gobeithion teuluoedd” mewn sefyllfa lle mae niferoedd y disgyblion yn Ysgol Gynradd Dihewyd ei gwneud hi’n anochel y bydd yn rhaid cau.

“Dyw’r data ddim yn awgrymu y bydd mwy o blant yn dod mewn i’r ardal,” meddai Keith Evans wrth Golwg 360 heddiw.

Ail-ystyried

Ond mae’r grŵp ymgyrchu dros Ysgol Gynradd Dihewyd yn mynnu y dylai’r Cyngor ail-ystyried eu bwriad i gau’r ysgol, sydd ag 13 o ddisgyblion ar hyn o bryd.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n disgwyl gweld nifer y disgyblion yn codi uwchlaw’r trothwy o 16 eto y flwyddyn nesaf.

“Dim ond yn un flwyddyn yr oedd nifer y disgyblion wedi syrthio o dan 16,” meddai arweinydd grŵp ymgyrchu’r ysgol, Hywel Ifans.

“Y cyfan yr oedden ni’n ei ofyn oedd am gyfle i brofi bod cymuned fach yng nghefn gwlad yn gallu cynnal ysgol wledig.”

Mae arweinwyr y Cyngor nawr wedi galw cyfarfod Cabinet brys er mwyn trafod y mater.

‘Cau’r ysgol’

Ond mae Keith Evans yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y Cabinet yn cyd-fynd ag argymhelliad gwreiddiol y Pwyllgor Craffu Trawsbleidiol o gynghorwyr y sir, oedd yn dweud y dylid cau’r ysgol.

“Pethe pleidiol yw hyn i gyd nawr, nid beth sydd orau i’n plant ni,” meddai Keith Evans, gan gyfeirio at benderfyniad rhai aelodau a basiodd yr argymhelliad gwreiddiol i gau’r ysgol yn y Pwyllgor Craffu, cyn pleidleisio o blaid yr oedi ddoe.

Ond mae grŵp ymgyrchu Ysgol Dihewyd nawr yn dweud y dylai’r Cabinet dalu sylw i farn y Cyngor, neu fygwth tanseilio democratiaeth wrth fynd yn ei erbyn. Mae’r Cynghorydd Keith Evans yn wfftio’r honiad hyn.

“Dim ond hanner aelodau’r Cyngor Sir oedd yna ddoe i basio’r argymhelliad,” meddai.

“A ta beth, democratiaeth sydd wedi dweud mai’r Cabinet sydd i fod i neud y penderfyniad.”

Bydd y Cabinet yn cyfarfod yn Aberaeron brynhawn dydd Llun nesaf i drafod sefyllfa Ysgol Gynradd Dihewyd.