Elfyn Llwyd
Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Albanaidd yn San Steffan yn argymell trosglwyddo cyfrifoldebau Ystadau’r Goron i’r Alban.

Yn ôl y pwyllgor amlbleidiol nid yw’r Alban yn elwa o ymwneud Ystadau’r Goron â’r wlad, yn arbennig mewn perthynas â gwely’r môr a’r arfordir.

Dywed adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd ddoe, fod diffyg atebolrwydd yn ymwneud Ystadau’r Goron â chymunedau’r Alban a bod arian yn diferu allan o’r economi lleol o achos y modd y mae’r Ystadau yn gweithredu.

Croesawu’r adroddiad

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd, wedi bod yn edrych ar berthynas Ystadau’r Goron a Chymru, a chroesawodd adroddiad y Pwyllgor Materion Albanaidd.

“Mae’n gwbl briodol bod cyfrifoldebau ystadau’r Goron yn cael eu datganoli. Hoffwn i weld Llywodraeth Cymru, yr Alban a Lloegr yn elwa yn uniongyrchol o waith y corff hwn”.

Ystadau’r Goron sy’n rheoli gwely’r môr am 12 milltir o’r arfordir, ac ychwanegodd Elfyn Llwyd:

“Mae Ystadau’r Goron yn aml yn rhwystr i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddol, megis ffermydd gwynt ar y môr. Os bydd cyfrifoldebau’r Ystadau yn cael eu datganoli bydd modd symud yn ddilyffethair at brosiectau a fydd er lles pobl Cymru”.

Mewn ymateb i adroddiad Pwyllgor yr Alban, dywedodd Ystadau’r Goron fod eu hymrwymiad i’r Alban a’i heconomi yn “gyflawn a sicr.”