Mae gwales.com – gwefan lyfrau’r Cyngor Llyfrau – wedi cyhoeddi ei bod bellach yn gwerthu e-lyfrau yn ogystal â llyfrau print.

“Mae’n holl bwysig, y dyddiau hyn, ein bod yn hyrwyddo e-lyfrau yn ogystal â fersiynau print,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. “Mae’r datblygiad hwn, felly, yn gam pwysig arall yn y broses o gynnig dewis eang o ddeunydd i’r darllenwyr.”

Mae bron i 150 o teitlau o Gymru ar gael fel e-lyfrau ar y wefan yn barod, ac mae na bwyslais nawr ar ehangu’r dewis, yn enwedig o ran y deunydd Cymraeg.

Eisoes mae llyfrau yn y gyfres Stori Sydyn, a nofelau gan Geraint Evans, Gareth F Williams ac Euron Griffith ymhlith yr arlwy sydd ar gael.

Clasuron

Yn fuan iawn bydd rhai o glasuron yr iaith megis Cysgod y Cryman, Y Stafell Ddirgel a Traed Mewn Cyffion a gwaith T Llew Jones yn ymddangos fel e-lyfrau, yn ogystal â chyfrolau gan awduron cyfoes fel Bethan Gwanas, Jon Gower ac Alun Jones.

Gyda’r Cyngor yn gwerthu e-lyfrau ar ffurf EPUB i’w lawrlwytho ar amrywiaeth o declynnau darllen – ac yn datblygu perthynas gyda’r dosbarthwyr Gardners – fe fydd modd i’r siopau llyfrau hefyd fod yn rhan o’r datblygiad gan gynnig e-lyfrau ar eu gwefannau. Yn yr un modd, bydd llyfrgelloedd yn gallu cynnig y llyfrau hyn i’w darllenwyr.

‘Siopau llyfrau’n rhan o’r datblygiad’

“Roedd yn holl bwysig ein bod yn sicrhau bod y siopau llyfrau’n rhan o’r datblygiad cyffrous hwn,” meddai Phil Davies, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hyrwyddo’r Cyngor. “Mae mwy a mwy o bobl yn mwynhau darllen llyfrau ar declynnau electronig erbyn hyn, gan gynyddu’r galw am ddeunydd darllen o Gymru yn y ddwy iaith.”

Wrth groesawu’r datblygiad hwn dywedodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £36,000 i Gyngor Llyfrau Cymru i hwyluso gwerthu e-lyfrau ar wefan gwales.com.

“Mae’n galonogol y bydd darllenwyr bellach yn gallu archebu e-lyfrau Cymraeg a Saesneg o wefan Gwales ac rwy’n falch y bydd y datblygiad hefyd o gymorth i siopau llyfrau, llyfrgelloedd a’r cyhoedd.”

Cafodd gwales.com ei sefydlu yn 1999 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac mae’n gwasanaethu llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd yn ogystal â’r cyhoedd.