John Griffiths
Mae undebau amaeth a’r gwrthbleidiau Cymru wedi ymateb yn ddig i benderfyniad y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths i frechu yn hytrach na difa moch daear mewn ymdrech i atal y diciau mewn gwartheg.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi “bradychu” ffermwyr yng ngogledd Sir Benfro sy’n amaethu o fewn yr ardal weithredu i’r gogledd o Drefdraeth ble bydd brechiadau’n digwydd.

Dywedodd Brian Walters o’r undeb: “Pan bleidleisiodd Aelodau Cynulliad ar sawl achlysur o blaid difa moch daear roedd hi’n amlwg fod Cymru’n barod i gymryd camau pendant tuag at waredu TB, hyd yn oed os oedd y camau hynny’n ddadleuol.

“Nawr mae’r sawl sydd wedi torri ei air nid yn unig wedi bradychu ffermwyr gogledd Penfro ond wedi bradychu’r diwydiant cyfan. Rhag eu cywilydd nhw.”

Yn ôl yr undeb byddan nhw’n derbyn cyngor cyfreithiol er mwyn ceisio cael iawndal i ad-dalu’r costau ychwanegol sydd ar ffermwyr gwartheg o fewn yr ardal weithredu yng ngogledd Sir Benfro.

“Llwfrdra”

Mynegodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Faterion Gwledig, Antoinette Sandbach AC, ei siom hefyd.

“Mae’r tro pedol hwn yn bradychu cefn gwlad Cymru. Bydd ffermwyr yng nghadarnleoedd y diciáu yn teimlo bod y golau ar ddiwedd y twnnel wedi’i ddiffodd. Nid yw brechu moch daear yn ddigon effeithiol i gael gwared ar y gronfa o ddiciáu sy’n bodoli.

“Gall llwfrdra’r Llywodraeth Lafur Gymreig olygu na fydd y nod o waredu’r diciáu o Gymru yn medru digwydd yn ystod oes llawer o ffermwyr”.

Yn y Senedd heddiw dywedodd y cyn-Weinidog Amaeth, Elin Jones o Blaid Cymru: “Mae ffermwyr wedi eu gadael i lawr yn llwyr gan y Llywodraeth. Rydych chi’n pallu â gadael iddyn nhw amddiffyn eu gwartheg rhag dal clefyd TB.

“A ydych chi’n cytuno â mi y bydd rhaid i ffermwyr nawr ystyried sut i amddiffyn eu gwartheg? Ni fyddaf i’n rhoi bai arnyn nhw sut bynnag byddan nhw’n dewis gwneud hynny.”

‘Newydd bendigedig’

Un sydd wedi croesawu’r cyhoeddiad yn wresog yw Celia Thomas, sy’n ffermio o fewn yr ardal weithredu ac yn gadeirydd ar fudiad Sir Benfro yn erbyn y difa.

“Ry’n ni wrth ein boddau, dyma newydd bendigedig.

“Mae’r Gweinidog yn amlwg wedi gwneud ei waith cartref ar fanteision brechu dros ddifa, ac mae’n braf gweld gwleidydd yn dilyn y farn wyddonol.

“Bydd gwaharddiadau yn parhau o fewn ein hardal ni ond mae hynny’n well na gweld dynion mewn siwtiau gwyn a balaclafas yn crwydro’n tir ni gyda dryllau.”

‘Llywodraeth Cymru ar ochr y ffermwyr’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth Alun Davies: “Mae TB gwartheg wedi achosi dinistr yn ein cymunedau ffermio ers blynyddoedd. Mae miloedd o anifeiliaid yn gorfod cael eu lladd o’i herwydd bob blwyddyn ac mae’n costio miliynau lawer o bunnoedd i’r diwydiant amaeth ac i Lywodraeth Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru ar ochr y ffermwyr a’r gymuned ffermio ac rydym yn benderfynol o ddileu TB gwartheg, sy’n gwmwl du dros gefn gwlad Cymru.

“Rwy’n croesawu datganiad y Llywodraeth sy’n cadarnhau nad yw’n fodlon gadael i’r clefyd hwn barhau i ddinistrio’r gymuned ffermio. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn barod i weithredu ar frys yn awr i ddileu ffynonellau’r haint yn ein hanifeiliaid gwyllt.

“Mae’r datganiad hwn yn golygu ein bod am gymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r broblem o drosglwyddo’r clefyd o anifeiliaid gwyllt i wartheg. Rwy’n gwybod y bydd ffermwyr yn croesawu’r ffaith bod y rhaglen frechu hon yn mynd i gael ei rhoi ar waith yn gyflym nawr.”