Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prynhawn ma y bydd yn cyflwyno rhaglen o frechu yn hytrach na difa moch daear i atal diciâu mewn gwartheg.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths yn y Senedd prynhawn ma.

Dywedodd: “Ar ôl ystyried yn ofalus, rwyf wedi penderfynu mynd ar drywydd prosiect i frechu moch daear.

“Rwyf wedi gofyn i’m Prif Swyddog Milfeddygol i ddylunio prosiect brechu, ei ddechrau yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yr haf hwn a’i gynnal am bum mlynedd.

“Rwyf wedi gofyn iddi hefyd ystyried cynnal prosiect brechu mewn ardaloedd eraill lle gallai hynny gyfrannu at ddileu TB.  Fy mwriad yw datblygu prosiectau fydd yn sicrhau bod y canlyniadau’n gallu cael eu monitro er mwyn gallu asesu’r effeithiau.”

Roedd undebau’r ffermwyr yng Nghymru eisoes wedi rhybuddio’r Llywodraeth y byddai rhoi’r gorau i’r bwriad i ddifa moch daear yn “frad”.

Roedd y ffermwyr yn pryderu y byddai  John Griffiths yn cefnogi brechu yn hytrach na difa ac y byddai’n  gwrthod y syniad o ladd arbrofol mewn ardal yng ngogledd Sir Benfro.

Fe fydd y cyhoeddiad yn cael croeso cynnes gan fudiadau amgylcheddol yn yr ardal a thrwy Gymru, ond mae arweinwyr Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru eisoes wedi rhybuddio y byddan nhw’n siomedig iawn.

Mae’r datganiad yn dod ar ôl arolwg o’r dystiolaeth wyddonol am effeithiolrwydd difa neu frechu moch daear, ond mae’r undebau’n bendant mai dim ond difa sy’n gweithio.

Ychwanegodd John Griffiths: “Fy nghasgliad yw nad wyf yn fodlon ar hyn o bryd bod angen difa moch daear er mwyn sicrhau gostyngiad sylweddol yn yr achosion o TB mewn gwartheg.  O ganlyniad, ni allaf awdurdodi rhaglen ddifa o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

“Nid yw’r ffaith fy mod yn awdurdodi brechu moch daear yn fy rhwystro rhag ystyried opsiynau eraill newydd a allai fod yn briodol ac ar gael imi yn y dyfodol.”