Mae undebau’r ffermwyr yng Nghymru wedi rhybuddio’r Llywodraeth y byddai rhoi’r gorau i’r bwriad i ddifa moch daear yn “frad”.

Mae’r ddau undeb yn ofni’r gwaetha’ pan fydd y Gweinidog Amgylchedd yn gwneud datganiad yn y Cynulliad y prynhawn yma ynglŷn â chamau i atal diciâu mewn gwartheg.

Pryder y ffermwyr yw y bydd John Griffiths yn cefnogi brechu yn hytrach na difa ac y bydd yn gwrthod y syniad o ladd arbrofol mewn ardal yng ngogledd Sir Benfro.

Fe fyddai hynny’n cael croeso cynnes gan fudiadau amgylcheddol yn yr ardal a thrwy Gymru, ond mae arweinwyr Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru eisoes wedi rhybuddio y byddan nhw’n siomedig iawn.

Mae’r datganiad yn dod ar ôl arolwg o’r dystiolaeth wyddonol am effeithiolrwydd difa neu frechu moch daear, ond mae’r undebau’n bendant mai dim ond difa sy’n gweithio.

‘Brad llwyr’

Dyma’r paragraff allweddol mewn llythyr a anfonwyd gan y ddau lywydd, Emyr Jones ac Ed Bailey, a Chadeirydd Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Johnny Homfray:

“Byddai unrhyw benderfyniad i weithredu polisi  heb brawf ymarferol ei fod yn lleihau diciâu mewn gwartheg, yn hytrach na pholisi sydd wedi ei brofi’n llwyddiant, yn frad llwyr o’r ymddiriedaeth y mae ffermwyr wedi ei ddangos at Lywodraeth Cymru.”