Maes awyr Caerdydd
Mae mudiad Fly Cardiff wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i ymddiswyddo ar ôl iddo feirniadu maes awyr Caerdydd ddydd Mawrth.

Yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog dywedodd Carwyn Jones na fyddai eisiau dod â phobl i Gymru trwy faes awyr Caerdydd achos y ddelwedd anffodus byddai pobl yn ei gael o Gymru.

Mewn blog mynnodd mudiad Fly Cardiff, sy’n ymgyrchu i wella maes awyr Caerdydd, y dylai Carwyn Jones ymddiswyddo.

“Gaethon ni sioc a siom wrth glywed y sylwadau hyn. Mae angen iddo stopio siarad yn negyddol am ein maes awyr cenedlaethol. Dylai fod yn gwneud popeth y gall i annog ymwelwyr i Faes Awyr Caerdydd a Chymru.

“Wrth gwrs bod angen codi safon y maes awyr, a chael terfynfa newydd ac yn y blaen ond dewch i feddwl am hynny ar ôl i nifer y teithwyr ddechrau codi.”

Wrth drydar ar Twitter, galwodd Fly Cardiff y Prif Weinidog yn “Rheolwr Busnes a Datblygiad answyddogol a di-dâl (sori, nawdd gan drethdalwyr Cymru) Maes Awyr Bryste”.

Mewn ymateb i feirniadaeth y Prif Weinidog, dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol a Chynllunio Maes Awyr Caerdydd, Steve Hodgetts: “Mae Maes Awyr Caerdydd dal yn ymrwymedig i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, fel y mynegwyd gennym ni wythnos diwethaf yng nghyflwyniad y maes awyr i’r Pwyllgor Busnes.”

Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr y bydd gan Gaerdydd hediadau newydd. Mae cwmni awyrennau newydd o Sbaen, Vueling, yn dechrau gwasanaethau o Gaerdydd i Farcelona o ddiwedd Mawrth, ac i Alicante a Palma o ddiwedd Mehefin.

Mae’r cwmni gwyliau Cosmos hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwasanaethu teithiau hedfan wythnosol i Orlando yn yr Unol Daleithiau o fis Mai i fis Medi eleni.