Fe fydd y canlyniad a fydd yn selio ffawd un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru prynhawn ma “yn un agos”.

Dyna farn yr ymgynghorydd gwleidyddol, Rhodri ab Owen sy’n gweithio i Positif Politics.

“Fe eith hi yn bendant i’r ail bleidlais. Ond o be dw’n ei ddeall  ar ôl siarad gyda phobl o fewn y blaid maen nhw yn disgwyl canlyniad agos iawn prynhawn ma. Efallai cwpl o wythnosau yn ôl mi oedd pobl yn fodlon dweud pwy oedden nhw yn meddwl oedd yn mynd i ennill, erbyn nawr dyw pobl ddim cweit mor siŵr.”

Aelodau’r blaid fydd yn penderfynu ar yr enillydd gyda phob aelod yn rhestru eu dewis cyntaf, a’u hail a’u trydydd dewis trwy’r system bleidlais amgen drosglwyddadwy.

Mae Rhodri ab Owen yn credu y bydd y system hon yn golygu mai Elin Jones fydd yn fuddugol gan y bydd hi, yn ei farn ef, yn derbyn ail bleidlais y ddau ymgeisydd arall, Leanne Wood a Dafydd Elis-Thomas.

Ond mae’n pwysleisio bod yna ffactor arall pwysig allai newid pethau.

“Mae’n dibynnu hefyd pa mor effeithiol maen nhw wedi bod yn cael eu cefnogwyr nhw a’r aelodau lleol i bleidleisio. Pa mor effeithiol mae Dafydd Elis-Thomas wedi bod yn cael aelodau Dwyfor Meirionydd mas yn pleidleisio?”

Ymgyrchoedd unigol

Yn ôl Rhodri ab Owen ymgyrch y ddwy fenyw sydd wedi bod fwyaf gweladwy.  “Ond o be dwi wedi clywed a gweld, fi’n credu bod Dafydd Elis-Thomas wedi rhedeg ymgyrch dawel ond effeithiol ac mae eu cefnogwyr wedi canolbwyntio ar sicrhau yn lleol bod eu cefnogwyr e yn pleidleisio,” meddai.

Mae hefyd yn teimlo bod yr Aelod Cynulliad ar gyfer Dwyfor Meirionydd wedi llwyddo i dawelu pryderon pobl am ei safbwynt ar annibyniaeth gan wneud y pwnc yn “llai o issue nag oedd e ar ddechrau’r ymgyrch.”

Ac er ei fod yn cydnabod bod y ffaith mai dysgwraig yw Leanne Wood wedi achosi problem i rai, mae’n teimlo ei bod hi wedi llwyddo i ennyn edmygedd nifer o aelodau’r blaid trwy gynnal cyfweliadau a dadl ar CF99 yn Gymraeg.

“Roedden nhw yn gweld hi yn ddewr yn gwneud hynny hefyd achos doedd e ddim yn gam rhwydd iddi hi i wneud beth wnaeth hi a dw i’n credu bod hi wedi ennill parch llawer o’r aelodau bryd hynny.”

‘Ymgyrch wedi denu sylw’

Yn ei farn ef mae’r ymgyrch wedi bod yn beth positif i Blaid Cymru gan gynyddu’r aelodaeth ac ennyn brwdfrydedd aelodau sydd ddim wedi bod yn weithredol yn y blaid ers peth amser. Ac mae’n dweud bod yr ymgyrch ei hun wedi denu sylw.

“Maen nhw wedi sicrhau proffil uchel i’r ymgyrch arweinyddol yn annhebyg iawn i ymgyrch Nick Ramsay ac Andrew R T Davies. Dw i yn credu bod hwnna wedi bod yn hynod fuddiol iddyn nhw.”

Dilynwch Blog Byw Golwg 360 o’r cyhoeddiad yng Ngwesty Dewi Sant Caerdydd y prynhawn yma fan hyn.