Y tri ymgeisydd
Mae Plaid Cymru yn paratoi i ethol arweinydd newydd heddiw. Bydd canlyniad yr etholiad yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd yn ddiweddarach prynhawn ma.
Bydd y Blaid yn dewis arweinydd newydd i olynu Ieuan Wyn Jones, a gyhoeddodd y llynedd ei fwriad i sefyll lawr ar ôl dros ddegawd wrth y llyw.
Mae’r tri ymgeisydd am yr arweinyddiaeth, Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones a Leanne Wood wedi treulio’r misoedd diwethaf yn teithio ledled Cymru.
‘Brwdfrydedd newydd’
Dywedodd Prif Weithredwr Plaid Cymru a Swyddog Dynodedig yr etholiad, Rhuanedd Richards: “Mae heddiw yn ddiwrnod tyngedfennol i’r Blaid ac i Gymru wrth i ni ethol ein harweinydd newydd.
“Dros y misoedd diwethaf mae ein haelodau, cefnogwyr ac etholwyr ehangach wedi cymryd rhan mewn dadl fywiog ac agored am drywydd Plaid Cymru yn y dyfodol.”
“Mae Etholiad yr Arweinydd wedi bywiogi ac uno Plaid Cymru ac mae gennym frwdfrydedd newydd i frwydro dros ddyfodol gwell i Gymru. Mae’n destun balchder mawr i ni gyd bod hyn wedi arwain at gynnydd o 23% yn ein haelodaeth, ac mae mwy o bobl yn ymuno â ni bob dydd.
“Mae diogelu buddiannau Cymru a brwydro am ddyfodol gwell i’n cenedl yn un o’r prif bethau sydd ar feddyliau pobl.
“Mae Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones a Leanne Wood i gyd yn ymgeiswyr cryf iawn sydd, a fydd, yn parhau i wasanaethau Cymru’n dda.”
Cynnig cyngor
Ddoe, wrth baratoi at ei sesiwn olaf fel arweinydd Plaid Cymru yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Ieuan Wyn Jones y byddai’n fwy na pharod i gynnig cyngor i bwy bynnag fyddai’n cymryd ei le, ond dim ond pan fod cais yn dod am y cyngor hwnnw.
“Mae’n bosib y bydd adegau pan fydd hi’n angenrheidiol i gynnig cyngor, ond dwi ddim yn mynd i fod yn ceisio gyrru o’r sedd gefn, na’r sedd flaen chwaith,” meddai.
Dilynwch Blog Byw Golwg 360 o’r cyhoeddiad yng Ngwesty Dewi Sant Caerdydd fan hyn.