Wylfa
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o wneud tro pedol  ar ol cyhoeddi heddiw ei bod yn cefnogi codi gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn.

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear dyma’r datganiad clir cyntaf gan Lywodraeth Cymru o gefnogaeth i ynni niwclear.

Wrth gyhoeddi  gweledigaeth ynni Llywodraeth Cymru heddiw, mae’r ddogfen Ynni Cymru yn nodi:

“Mae Llywodraeth Cymru o blaid datblygu gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn cynnig manteision economaidd hirdymor sylweddol i Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gyffredinol a gallai gyfrannu £2.34 biliwn i’r economi dros y cyfnod hyd at 2025.”

Fukushima

Ond mae cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb, wedi ymateb yn chwyrn i’r datganiad yma yn y weledigaeth ynni.

“Mae’n eironig iawn fod y datganiad hwn yn dod union flwyddyn ar ôl trychineb niwclear Fukushima. Mae gwledydd ar draws y byd yn tynnu allan o’r ras niwclear, ond yma mae Llywodraeth Cymru’n torri cwys unig o gefnogaeth.”

‘Drud a pheryglus’

Ychwanegodd Gareth Clubb: “Dy’n ni ddim angen ynni niwclear. Mae’n ddrud, yn beryglus, ac mae’n gwasgu arian a fyddai’n gallu cael ei wario ar ddatblygu ynni cynaliadwy ac effeithlon.

“Mae’r gred fod ynni niwclear yn gallu helpu i adeiladu Cymru lewyrchus yn gamarweiniol – mae ynni adnewyddadwy yn creu llawer mwy o swyddi na ynni niwclear am bob uned o ynni sy’n cael ei gynhyrchu.”

Ymateb PAWB

Mewn ymateb i’r ddogfen Ynni Cymru, dywedodd Dylan Morgan o fudiad PAWB ar Ynys Môn: “Ystyriaethau cul, pleidiol y Blaid Lafur sy’n gyrru cefnogaeth Carwyn Jones i godi gorsaf newydd ar Ynys Môn.

“Pam fod pwerdy niwclear fel y Wylfa yn bell o ganolfanau poblog? – achos ei fod e’n beryglus. Os oes rhywbeth yn mynd o’i le, chewch chi ddim ail gyfle – gofynnwch i bobl Fukushima.

“Mae arian cyhoeddus yn cael ei ddargyfeirio o ynni adnewyddol i gefnogi ynni niwclear, a dyw Carwyn Jones ddim yn cydnabod y peryglon sydd ynghlwm â’r diwydiant drud, budr a pheryglus yma”.

‘Cyfle euraid i Gymru’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn ei ragair i Ynni Cymru: “Mae yna heriau mawr o’n blaenau: newid hinsawdd a diogelu ffynonellau ynni. Ond mae’r heriau hyn hefyd yn gyfle euraid i Gymru, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

“Rydyn ni felly’n canolbwyntio ar arwain y newid i garbon isel – ar osod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwell a gwneud y gorau o’r manteision hirdymor i Gymru’r un pryd.”