Mae’r Gweindiog Addysg Leighton Andrews wedi cyhoeddi cynlluniau heddiw i roi £10,000 yr un i ysgolion uwchradd yn y bandiau isaf yng Nghymru.
Fe fydd yr arian yn cael ei roi er mwyn sicrhau bod yr ysgolion yn gwella eu safonau a pherfformiad.
Mae’r cynllun bandio yn rhoi ysgolion mewn un o bump band cyrhaeddiad yn ôl nifer o ffactorau, gan gynnwys canlyniadau TGAU a phresenoldeb disgyblion.
Panel o arbenigwyr
Wrth gyhoeddi’r newyddion yng Nghaerdydd heddiw, dywedodd Leighton Andrews y byddai’n rhaid i bob ysgol ym mand 4 a 5 gyflwyno cynlluniau a thargedau manwl ar sut i wella’u perfformiad cyn eu bod nhw’n cael yr arian ychwanegol.
Fe gyhoeddodd hefyd y byddai panel newydd o athrawon a phrifathrawon yn cael ei sefydlu er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru a rhannu syniadau. Fe fydd y panel yn cwrdd bob dau fis a bydd aelodau’r panel yn newid bob dwy flynedd.
Undebau’n croesawu’r cyhoeddiad
Mae undeb athrawon ATL Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw.
Dywedodd Dr Philip Dixon, Cyfarwyddwr ATL Cymru: “Rydym ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd arian ychwanegol i ysgolion ym mand 4 a 5. Rydym eisoes wedi galw am gymorth newydd ac ychwanegol i ysgolion ac fe fydd hyn yn cael croeso mawr o fewn y byd addysg.
“Mae creu’r panel newydd hefyd yn hanfodol i wella perfformiad ysgolion.”