Alun Davies
Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru wedi addo y bydd yn gwrando mwy ar lais ffermwyr wrth adolygu’r broses sy’n ceisio cael ffermwyr i gymryd mwy o ran mewn cynlluniau amgylcheddol.

Wrth gyhoeddi’r newyddion am ddyfodol yr Elfen Cymru Gyfan o’r Cynllun Glastir, mae Alun Davies wedi dweud ei fod yn awyddus i glywed barn ffermwyr ar newid y cynllun, sydd wedi cael ymateb siomedig iawn ers ei gyflwyno ddwy flynedd yn ôl.

Yn ôl Alun Davies, mae angen “dysgu gwersi y ddwy flynedd ddiwethaf fel bod y cynllun yn parhau i esblygu a gwella.”

‘Gormod o waith papur’

Mae ‘Glastir’ yn gofyn i ffermwyr wneud cais i fod yn rhan o gynllun sy’n gwobrwyo ffermwyr am ymrwymo i gymryd camau ychwanegol i warchod yr amgylchedd am bum mlynedd.

Roedd y cynllun wedi denu ymateb weddol gadarnhaol cyn ei gyflwyno ddwy flynedd yn ôl, ond pan ddaeth hi’n adeg ymuno â’r cynllun – canran bach iawn o’r nifer disgwyliedig a ymunodd â’r cynllun.

Yn ôl nifer yn y diwydiant, roedd y broses o ymuno yn golygu gormod o waith papur, a llawer o ddryswch.

‘Gwella’r broses’

Ond yn ôl Alun Davies, mae’n gobeithio gallu gwella’r broses drwy “gynnal trafodaethau gyda ffermwyr, gyda’r rheiny sydd wedi ymuno â chynllun Glastir, a’r rheiny sydd heb wneud eto.

“Dwi’n hynod awyddus i glywed barn y ffermwyr hynny sydd wedi bod ynghlwm â’r cynllun, i weld beth oedd yn gweithio’n dda, a beth nad oedd yn gweithio cystal, a sut gallwn ni wella pethau,” meddai.

NFU Cymru

Mae undeb amaethwyr NFU Cymru wedi dweud eu bod yn croesawu’r amcan pendant ar wella’r cynllun – ond eu bod yn ddrwgdybus o glywed mai ‘sesiwn gwrando arall’ sydd gan y Llywodraeth mewn golwg.

“Mae NFU Cymru wedi treulio oriau dirifedi yn trafod â grwpiau a Gweinidogion y Llywodraeth ers i’r cynllun gael ei gyhoeddi gyntaf yn 2009,” meddai Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, Bernard Llewellyn, “Ond yn rhy aml mae’r cynigion hyn wedi cael eu hanwybyddu.”

Dywedodd mai gobaith NFU Cymru y tro hwn oedd bod “ymrwymiad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i wrando ac i gymryd pryderon ein diwydiant i ystyriaeth.”

‘Gobeithio am drafodaeth dwy ffordd’

“R’yn ni’n gobeithio y bydd yr adolygiad yma’n broses ddwy ffordd, ac y bydd Glastir yn gallu cael ei drawsnewid yn gynllun sy’n gallu gweithredu ar gyfer ffermwyr ac ar gyfer y Llywodraeth,” meddai Bernard Llewellyn.

“Dydi NFU Cymru erioed wedi dadlau yn erbyn amcanion nac egwyddorion Glastir,” meddai.

“Ond yr hyn yr ydyn ni wedi ei gwestiynu’n gyson yw ymarferoldeb cyflwyno’r cynllun ar y fferm, law yn llaw â’r holl fiwrocratiaeth sydd ynghlwm â gwneud cais am y cynllun – a’r holl gadw cofnodion sy’n rhaid eu gwneud unwaith i ffermwyr ymrwymo.”

Bydd gweithdai trafod yn cael eu cynnal ar draws Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae’r Llywodraeth yn annog pobol i roi eu barn. Bydd y broses yma o ymgynghori yn para nes diwedd Ebrill 2012 – ac mae disgwyl cyhoeddiad ynglŷn â dyfodol y cynllun erbyn mis Mehefin 2012.