Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod “tro pedol” Llywodraeth Cymru i gynnal  ymgynghoriad ar leddfu traffig yr M4  i’w groesawu heddiw.

Mae’r blaid wedi bod yn galw ers tro am gamau i wella tagfeydd traffig y draffordd sy’n rhedeg ar draws de Cymru, ac heddiw maen nhw wedi croesawu’r newyddion bod ymgynghoriad newydd wedi ei lansio i edrych ar ffyrdd i ddatrys y broblem.

“Mae hyn yn dipyn o dro-pedol yn sgil penderfyniad y Llywodraeth i gael gwared ar syniad i greu ffordd newydd ar yr M4 yn 2009,” meddai llefarydd trafnididaeth y Ceidwadwyr, Byron Davies.

Mae’r ymgynghoriad a lansiwyd heddi yn edrych ar gwahanol ffyrdd o ddatrys y tagfeydd traffig cyson sy’n diwydd ar yr M4 ger Casnewydd. Un o’r syniadau yn yr ymgynghoriad yw adeiladu dau dwnnel newydd ym Mrynglas.

Mae’r Ymgynghoriad ar Fesurau Gwella Coridor yr M4 yn cychwyn heddiw gyda chyfres o weithdai, ac yn parhau tan 6 Fehefin.

Cyhoedd yn cael cyfle i leisio barn

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd y cyhoedd i leisio’u barn ac i ystyried pedwar opsiwn penodol: Adeiladu heol newydd i’r de o Gasnewydd i ysgafnhau’r llif traffig ar yr M4; gwella’r cyffyrdd; adeiladu cyffyrdd newydd; adeiladu dau dwnnel newydd ym Mryn-glas.

“Rydyn ni wastad wedi dweud fod hwnnw’n benderfyniad ofnadwy, ac rydw i wrth fy modd fod y Llywodraeth o’r diwedd yn gwrando ar ein lleisiau ni, ynghyd â lleisiau arweinwyr busnesau a phobol leol ar draws yr ardal,” meddai Byron Davies.

“Cafodd miliynau o bunnoedd ei wario ar y prosiect cyn iddo gael ei atal. Nawr, yn addas iawn, mae’r mater yn ôl ar yr agenda, a dwi’n croesawu hynny gant y cant,” meddai.

‘Angen gofal’

Ond mae AC lleol y Dems Rhyd, Eluned Parrott, wedi rhybuddio bod angen gofal cyn rhuthro i groesawu syniad newydd twnneli Brynglas.

“Tra mai twnneli ychwanegol ym Mrynglas fyddai’r ateb sy’n cael ei ffafrio, mae’n rhaid i ni ystyried yr effaith ar bobol leol sydd eisoes yn byw yn agos i’r twnneli,” meddai.

“Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i ystyried amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys gwell hewl i’r de o Gasnewydd – ac rydw i’n annog pobol i gyfrannu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg 360 heddiw nad oes cyllideb benodol wedi ei chlustnodi ar gyfer y gwelliannau i’r M4, hyd yn hyn.

“Ar hyn o bryd ein bwriad yw i glywed barn y cyhoedd a byddwn ni’n ystyried y gyllideb maes o law,” meddai’r llefarydd.