Mae Llywodraeth Cymru heddiw’n lansio ymgynghoriad i geisio datrys tagfeydd traffig ar yr M4  ger Casnewydd, gan gynnwys adeiladu dau dwnnel newydd.

Mae gyrrwyr wedi wynebu oedi ers blynyddoedd ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach, yn arbennig o amgylch twnel Bryn-glas lle mae’r draffordd yn culhau.

Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried nifer o opsiynau ar hyn o bryd, gan gynnwys adeiladu dau dwnnel newydd ym Mryn-glas er mwyn lleddfu’r llif.

Mae’r Ymgynghoriad ar Fesurau Gwella Coridor yr M4 yn cychwyn heddiw gyda chyfres o weithdai, ac yn parhau tan 6 Fehefin.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd y cyhoedd i leisio’u barn ac i ystyried pedwar opsiwn penodol: Adeiladu heol newydd i’r de o Gasnewydd i ysgafnhau’r llif traffig ar yr M4, gwella’r cyffyrdd, adeiladu cyffyrdd newydd, ac adeiladu dau dwnnel newydd ym Mryn-glas.

Dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Carl Sargeant: “Rydyn ni i gyd yn gwybod bod tagfeydd traffig yn broblem ar y darn hwn o’r M4. Felly mae gwella llif y traffig ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru ac yn un o’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, sydd hefyd yn flaenoriaeth.

“Hoffwn annog pobl i roi eu sylwadau a dweud wrthym am eu profiadau trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn er mwyn inni allu gwella llif y traffig ar yr M4. Gallwn wedyn fynd ati i wella’r llwybr trafnidiaeth hanfodol hwn ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg360 nad oes cyllideb benodol wedi ei chlustnodi ar gyfer y gwelliannau i’r M4. “Ar hyn o bryd ein bwriad yw i glywed barn y cyhoedd a byddwn ni’n ystyried y gyllideb maes o law.”