Mae rhagor o achosion o’r Frech Goch wedi cael eu darganfod ar blant ym Mhorthmadog heddiw, gan ddod â’r cyfanswm sydd wedi eu heintio i 33.

Mae 29 o’r achosion hyn wedi eu cysylltu’n uniongyrchol ag Ysgol Uwchradd Eifionydd, Porthmadog.

Mae’r pedwar achos arall yn ymwneud ag unigolion sy’n byw yn yr ardal leol ond heb unrhyw gysylltiad uiongyrchol â’r ysgol.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae mwyafrif y rheiny sydd wedi eu heffeithio gan y Frech Goch heb dderbyn brechlyn MMR o gwbwl, neu wedi derbyn dim ond un brechiad.

Yn ôl Dr Judy Hart, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Frech Goch yn hynod heintus ac yn gallu ymledu yn rhwydd iawn.

“Mae’r feirws nawr ar led yn y gymuned, felly mae pob un o’r rheiny sydd heb eu diogelu gan ddau frechlyn MMR mewn perygl o ddal y Frech Goch.

“Gallai rhan fwya’r achosion sy’n cael eu hastudio ar hyn o bryd fod wedi cael eu hatal gan y brechlyn MMR,” meddai.

MMR

Fel arfer, mae plant yn derbyn eu brechiad MMR cyntaf rhwng 12-13 mis, a’r ail o gwmpas tair blwydd pedwar mis oed.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn annog rhieni yng Ngogledd Cymru sydd â phlant wedi colli un neu ddau o’u brechiadau i fynd ati ar unwaith.

Maen nhw’n dweud bod hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd plant yn cymysgu fwy fwy yn ystod y diwrnodau nesaf, wrth iddi ddod yn gyfnod yr eisteddfodau cylch.

Mae sesiynau brechu esioes wedi bod ar waith mewn dwy ysgol leol ers wythnos ddiwethaf, pan gafodd 30 o blant eu brechu.

Mae’r awdurdodau lleol wedi bod ar eu gwyliadwraeth ers i’r achosion cyntaf o’r feirws gael eu darganfod yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, ar 17 Chwefror.