Mae pobl sydd ag anableddau yng Nghymru yn diodde’n enbyd yn sgil newidiadau i fudd-daliadau lles, yn ol Prif Weithredwr corff Anabledd Cymru.

Dywed Rhian Davies mewn erthygl ar wefan Click on Wales fod y Mesur Diwygio Lles sy’n mynd trwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd eisoes yn cael effaith ar bobl anabl yng Nghymru.

Mae pobl ag anabledd ddwywaith yn fwy tebygol o fyw mewn tŷ ag incwm isel na phobl heb anabledd, meddai Rhian Davies, ac mae gan 23% o’r boblogaeth rhyw fath o anabledd, anhawsterau dysgu neu gyflwr iechyd meddwl. Mae un o bob deg person o oed gweithio yng Nghymru yn derbyn rhyw fath o fudd-dal anabledd.

Dywed yr Adran Gwaith a Phensiynau mai bwriadau’r Mesur yw “i annog pobl i fynd i weithio trwy sicrhau fod gwaith wastad yn talu, i amddiffyn y mwyaf bregus mewn cymdeithas, ac i sicrhau tegwch i’r sawl sy’n hawlio budd-dal yn ogystal â’r trethdalwr”.

Budd-dal

Mae Rhian Davies hefyd yn beirniadu’r hinsawdd bresennol ble mae’r sawl sy’n hawlio budd-dal anabledd yn aml yn cael eu cyhuddo o geisio “twyllo’r” system.

“Mewn gwirionedd mae lefelau twyll yn isel ac nid yw pobl yn tueddu i hawlio’r Budd-dal Anabledd yn llawn,” meddai.

Mae Rhian Davies yn tynnu sylw at y ffaith nad yw Diwygio Lles yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ac nad oes llais gan Lywodraeth Cymru dros fater fydd yn effeithio ar bobl a gwasanaethau yng Nghymru.

“Yr her sy’n ein wynebu yng Nghymru yw defnyddio cyfrifoldebau newydd y Cynulliad i leddfu effeithiau’r Diwygio Lles ar bobl anabl tra’n creu dull Cymreig o weithredu,” ychwanegodd.