Protestwyr Bronglais tu allan i'r Senedd
Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnal dau gyfarfod cyhoeddus heddiw er mwyn trafod pryderon pobol leol ynglŷn â dyfodol Ysbyty Bronglais.

Er bod Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn dod o dan gyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae’r ysbyty yn gwasanaethu cleifion ar draws y canolbarth.

Bydd un cyfarfod yn Y Plas, Machynlleth, am 3.30pm heddiw, ac yna un arall yng Nghanolfan Gymunedol Llanidloes am 7pm.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ym Machynlleth a Llanidloes.

Estyniad i’r cyfnod gwrando

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi mis ychwanegol i’r cyfnod gwrando ar eu cynlluniau i newid gwasanaethau Ysbyty Bronglais, gan ddod i ben ar 1 Ebrill, ac yn cynnal cyfarfodydd pellach yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ystod y mis ychwanegol.

Wrth gyhoeddi’r estyniad i’r cyfnod gwrando, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Chris Martin, ei bod hi’n dod yn fwy amlwg fod yna “anhawster wrth wahaniaethu rhwng ymgynhori, a gwrando ar farn.

“Mae pobol eisiau gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd yn eu ysbyty lleol, ac rydyn ni’n deall y rhwystredigaeth honno, ond mae hwn yn gyfnod o wrando er mwyn i ni allu cael barn pawb ac adlewyrchu hynny yn unrhyw gynigion sy’n mynd ymlaen i’r ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

“Rydym am i’n staff, rhanddeiliaid a’r cyhoedd i weld y cyfle hwn yn cynnig i ddarparu gwasanaeth iechyd sydd o safon rhyngwladol ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol,” meddai Chris Martin.

Deiseb

Daw’r cyfres newydd o gyfarfodydd llai nag wythnos wedi i ryw 700 o bobol  ar draws Ceredigion a’r canolbarth fynd i’r Senedd ym Mae Caerdydd i brotestio yn erbyn symud gwasanaethau o ysbyty Bronglais.

Dydd Mercher diwethaf, cafodd deiseb yn gwrthwynebu israddio’r ysbyty ei gyflwyno i’r Cynulliad, ac aeth cynrychiolaeth o grŵp ymgyrchu aBer i gwrdd â’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths i drafod eu pryderon.

Mae disgwyl i brotest arall gael ei chynnal ar risiau’r Senedd ddydd Merch nesaf, wrth i ymgyrchwyr yn erbyn israddio gwasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Phillip, Llanelli, gyflwyno’u deiseb i’r Cynulliad.