Awyren ysgafn
Chwalodd awyren ysgafn ar lain lanio ym maes awyr Abertawe, bore ma.

Ni chafodd y ddau berson a oedd yn yr awyren eu hanafu.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod yr awyren wedi chwalu am 11.05am.

Roedd criwiau tân o Orllewin Abertawe, Canol Abertawe a Gorseinon wedi eu hanfon i’r maes awyr ar benrhyn Gwyr.