Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio ar ôl i ferch 19 oed o ardal Hwlffordd farw mewn digwyddiad yn y dref yn gynnar bore ma.
Cadarnhaodd yr Heddlu i’r ferch farw tua 1:30am fore Iau, yn Heol Cartlett yn Hwlffordd. Yn ôl adroddiadau, sydd heb eu cadarnhau eto, roedd hi wedi cwympo o bont gerdded i’r heol islaw.
Mae’r Crwner wedi ei hysbysu, a dywed yr Heddlu nad ydyn nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus.