Mae uned cleifion allanol Ysbyty Cyffredinol Llandudno wedi ail-agor yn ôl yr arfer bore ma ar ôl i gemegau ollwng yno neithiwr.

Cafodd y Gwasanaethau Tân eu galw i’r ysbyty nos Fercher ar ôl cael rhybudd bod cemegau wedi gollwng yno.

Cafodd dau beiriant tân o Landudno ac Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o Wrecsam eu hanfon i’r digwyddiad ac fe wnaethon nhw ddarganfod bod asid peracetig, sy’n cael ei ddefnyddio fel diheintydd, yn gollwng yn uned cleifion allanol yr ysbyty.

Bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân wisgo offer anadlu a menig rwber i gael gwared â’r hylif oedd yn gollwng.

Dim anafiadau

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn ystod y digwyddiad. Bu’n rhaid i uned cleifion allanol yr ysbyty gau’n gynnar ond cadarnhaodd llefarydd ar ran Ysbyty Cyffredinol Llandudno wrth Golwg360 heddiw fod holl adrannau’r ysbyty wedi agor yn ôl yr arfer bore ma a na chafodd gwaith yr ysbyty ei darfu gan y digwyddiad.