Mae Plaid Cymru wedi dweud heddiw bod y feirws diweddaraf i daro’r byd amaeth yn profi bod angen hanfodol am gadw gwasanaethau labordai milfeddygol a iechyd anifeiliaid Cymru ar agor.

Mae llefarydd amaeth Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd, yn dweud y gallai cynlluniau DEFRA i dorri’n ôl ar wasanaethau arbenigol yn y labordai hyn gael effaith andwyol ar adnabod a thaclo’r feirws Schmaellenberg yng Nghymru.

Mae’r Aelod Cynulliad wedi galw ar DEFRA i ail-ystyried eu cynlluniau i dorri’n ôl ar wasanaethau’r labordai hyn yn Aberystwyth a Chaerfyrddin heddiw, gan ddweud fod ymlediad feirws Schmallenberg yn profi mor allweddol yw arbenigedd o’r fath yn lleol.

Gwaith ymchwil yn cael ei atal

Yn ôl ym mis Medi 2011, fe gadarnhaodd llefarydd ar ran DEFRA wrth Golwg 360 y byddai gwaith ymchwil gwyddonol sy’n cael ei wneud yn labordai Aberystwyth a Chaerfyrddin yn cael ei atal – er na fyddai’r safleoedd eu hunain yn cau.

Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i anifeiliaid gael eu hanfon i labordai eraill, ar draws y ffin, o hyn ymlaen, er mwyn cynnal profion patholegol a dadansoddiadol.

Ond mae Llyr Huws Gruffydd yn dweud fod proses o’r fath yn golygu y byddai oedi annerbyniol cyn adnabod clefydau a’u trin, yn enwedig petai anifeiliad yng Nghymru yn cael eu heintio gyda’r feirws.

Ail-ystyried

Wrth herio’r dirprwy weinidog amgylchedd, John Griffiths, yn y Senedd ddoe, galwodd Llyr Huws Gruffydd arno i bwyso ar Lywodraeth San Steffan i ail-ystyried eu penderfyniad.

“Y pryder y bydd firws Schmallenberg yn lledu yw’r union reswm pam na ddylid israddio gwasanaethau canolfannau LMIA Cymru,” meddai.

“Gallai unrhyw oedi cyn anfon samplau i ffwrdd i gael eu profi fod yn allweddol dan amgylchiadau o’r fath; felly hefyd golli gwedd leol ar unrhyw batrymau neu dueddiadau newydd o ran iechyd anifeiliaid.

“Mae llawer o’n cymunedau yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar amaethyddiaeth fel diwydiant, ac yr wyf yn annog llywodraeth y DG i gydnabod hyn trwy wrthdroi eu cynlluniau i israddio gwasanaethau ein labordai. Mae’r rhain yn wasanaethau hanfodol i’n ffermwyr a’n cymunedau gwledig,” meddai.

Annog ffermwyr i gymryd gofal

Wrth drafod y mater yn y Senedd ddoe, cadarnhaodd dirprwy weinidog yr amgylchedd nad oedd y clefyd yn disgyn i’r categori oedd yn gorfodi ffermwyr i hysbysu’r awdurdodau petai’n cael ei ddarganfod ar eu hanifeiliaid.

Ond mae Aelod Senedd Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, wedi dweud heddiw ei bod hi’n holl bwysig, er gwaetha’r rheolau, bod ffermwyr yn rhoi gwybod i filfeddygon os ydyn nhw’n amau bod y feirws Schmallenberg ar eu hanifeiliaid.

Mae profion eisoes wedi cael eu cynnal yng Nghymru yn sgil achosion tybiedig o’r clefyd, ond does dim un achos wedi cael ei gadarnhau eto.

Mae’r feirws, sy’n achosi erthyliadau a geni epil anffurfiedig, eisoes wedi cael ei gadarnhau mewn 83 o achosion ar draws de a de orllewin Lloegr, â hyd yn oed yn Swydd Gaerloyw, ar y ffin â Chymru.

Yn ôl Glyn Davies AS, sy’n ffermwr ei hun, mae’n rhaid gwneud “popeth yn ein gallu i gasglu gymaint o wybodaeth â phosib ynglŷn â’r clefyd, a’i ymlediad – ac fe fyddwn i’n annog bob ffermwr sydd â dafad sy’n erthylu oen am ddim reswm amlwg, neu sy’n geni oen â nam, i gysyltu â’u milfeddygon.”

Er ei fod yn cydnabod nad oedd gorfodaeth ar neb i roi gwybod i’w milfeddygon ar hyn o bryd, dywedodd fod “profiad wedi’n dysgu ni bod angen i ni gyd gymryd gofal.”